Diwedd y daith i gariadon 'Love Island'

  • Cyhoeddwyd

Mae Amber Davies o Ddinbych a Kem Cetinay wedi cyhoeddi eu bod nhw'n gwahanu, ar ôl dod at ei gilydd yn y gyfres Love Island ar ITV2 dros yr haf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ym mis Gorffennaf, fe ddewisodd gwylwyr y gyfres Amber a Kem fel eu hoff gwpwl, ac fe wnaethon nhw adael yr ynys yn rhannu gwobr o £50,000.

Yn ystod y gyfres fe welodd y gwylwyr Kem yn dysgu brawddegau Cymraeg, a chafodd gyfle i'w hymarfer gyda Hefin, tad Amber, pan ymddangosodd ef a'i wraig Sue ar y rhaglen. Dywedodd Kem ar y pryd, pa mor falch oedd e i gyfarfod â'i thad a'i fod mewn cariad â'i ferch.

Roedd y pâr wedi bod ar wyliau gyda'i gilydd ym mis Tachwedd, ac wedi gobeithio priodi.

Ddydd Llun, cyhoeddodd y ddau eu bod wedi penderfynu gwahanu am fod eu hamserlenni gwaith wedi ei gwneud hi'n anodd i wneud y berthynas i weithio. Mae Kem Cetinay yn un o gystadleuwyr y gyfres Dancing on Ice sy'n dychwelyd i ITV ddechrau 2018.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Amber (trydydd o'r chwith) yn perfformio gydag Enfys ar Noson Lawen

Mae Amber Davies yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Twm o'r Nant ac Ysgol Glan Clwyd, ac roedd Leah Owen yn ei dysgu yn yr ysgol gynradd ac yn ei hyfforddi i ganu mewn Eisteddfodau, ac meddai wrth Cymru Fyw ym mis Mehefin:

"Mae Amber yn eneth annwyl iawn ac yn dalentog. O'n i'n ei dysgu hi yn Ysgol Twm o'r Nant ac yn rhoi gwersi canu iddi hi a'i chwaer Jade. Mae'r ddwy ohonyn nhw'n gantorion arbennig, â thinc hyfryd i'w lleisiau.

"Fydda i'n edrych ymlaen i'w gweld hi pan ddaw hi adre a rhoi cwtsh mawr iddi a dweud, reit 'te yn ôl at y canu rŵan!"