Ifan Gwynedd: Yr aelod diweddaraf o linach o artistiaid
- Cyhoeddwyd
Ifan Gwynedd yn trafod ei waith a'r bobl sydd wedi dylanwadu arno
Eleni, fe gollwyd un o artistiaid amlycaf Cymru. Yn 87 oed, roedd Aneurin Jones yn enwog am bortreadau o gymeriadau cefn gwlad a cheffylau Cymreig.
Bu'n astudio Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe o 1950 hyd at 1955.
Gweithiodd fel athro celf a bu'n bennaeth celf yn Ysgol y Preseli, Crymych, hyd nes 1986.
Mae ei fab, Meirion Jones, hefyd yn artist amlwg.
Gwylio ei dad-cu
Nawr mae ŵyr Aneurin, Ifan Gwynedd, sy'n 18 oed, yn astudio celf yng Ngholeg Sir Gâr, ac yn ystyried dilyn gyrfa yn y byd celf.
"Fi wastad wedi mwynhau tynnu lluniau ers oedran cynnar iawn... mae'r diddordeb wedi tyfu.. dwi wedi dechrau paentio a sgetsio mwy o ddifri'," meddai.

Fe aeth Ifan Gwynedd ati i baentio'r hunan bortread yma yn "reddfol" ar ôl i Aneurin Jones farw
Dywedodd bod ei Dad-cu, Aneurin Jones, wedi bod yn ddylanwad mawr: "Roeddwn i yn mynd allan i stiwdio Tad-cu pan oeddwn i 4 neu 5 oed. Mae e wedi bod yn ddylanwad mawr iawn - jyst bod allan yn y stiwdio a gweld y paentiadau mawr 'ma.
"Roeddwn i yn gwylio fe yn dawel a gweld shwd oedd e'n neud e'."
'Diwedd cyfnod'
Yn ôl Ifan, mae'r testunau oedd yn diddori ei dad-cu yn "perthyn i gyfnod arall".
"Os bydden ni'n gwneud rhywbeth tebyg bydde fe ddim yn gwneud synnwyr - mae e bron iawn wedi cofnodi diwedd cyfnod," meddai.
Mae'n dweud hefyd bod ei ewythr, Meirion Jones, wedi bod yn "ddylanwad mawr".

Mae Ifan Gwynedd wedi cwblhau'r llun hwn o'i dad-cu yn ddiweddar

Yn ogystal â phortreadau mae Ifan yn hoffi arlunio tirluniau ardal Sir Gaerfyrddin a Cheredigion
Fel artist, mae Ifan yn dilyn ei drywydd ei hun. Mae'n hoff iawn o wneud hunan bortreadau a phortreadau o'r teulu.
Yn ddiweddar, mae e wedi cwblhau portread trawiadol o'i dad-cu, ac mae'n hoff iawn o wneud tirluniau o Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
"Fi'n cael mwynhad. Dywedwch bod chi'n gwneud sgets ac yn cael popeth yn iawn o ran y cyfansoddiad, y golau a'r cysgod... fel oedd artistiaid fel Augustus John yn gwneud."
'Yn y genes'
Yn ôl Ifan, mae'n ystyried dilyn gyrfa fel arlunydd, ond ar hyn o bryd mae'n canolbwyntio ar fwynhau ei waith celf.
"Mae diddordeb 'da fi a dwi'n mwynhau a 'na beth sydd yn bwysig. Rwy'n astudio cwrs sylfaen yn y coleg celf yng Nghaerfyrddin."
O ble mae'r ddawn yn dod felly? Oes yna ddawn gynhenid yn y teulu?
"Mae'n rhaid bod rhywbeth ynddoch chi. Mae popeth yn y genes, yn y doniau sydd gyda chi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2017
- Cyhoeddwyd25 Medi 2017