Datgladdu corff i geisio datrys dirgelwch o 1994

  • Cyhoeddwyd
Pauline FinlayFfynhonnell y llun, RTÉ
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Pauline Finlay ar goll yn 1994, saith mis cyn i gorff gael ei ddarganfod ar Ynys Môn

Fe fydd yr awdurdodau yn datgladdu gweddillion corff gafodd ei ddarganfod ar Ynys Môn yn 1994 er mwyn ceisio datrys dirgelwch dynes aeth ar goll yn Iwerddon.

Ar ôl arolygu tystiolaeth mae'r heddlu yng Nghymru a Gweriniaeth Iwerddon nawr yn credu ei bod hi'n debyg mai gweddillion Pauline Finlay o sir Wexford gafodd eu claddu yng Nghymru.

Cafodd y corff ei ddarganfod ar draeth Porth Trecastell ger Aberffraw ar 31 Hydref 1994.

Dywedodd Crwner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard-Jones fod y crwner ar y pryd ynghyd â'r heddlu wedi methu ag adnabod y corff, a chafodd rheithfarn agored ei chofnodi.

Ond ar ôl i Heddlu Gogledd Cymru gynnal arolwg o hen achosion maen nhw nawr yn credu ei bod hi'n eithaf tebygol mai gweddillion Mrs Finlay, 49 oed, oedd y rhai a gafodd eu darganfod.

Ffynhonnell y llun, Google

Dywedodd Mr Pritchard-Jones fod Mrs Finlay wedi diflannu wrth fynd â'i chi am dro ar draeth ger Wicklow.

Fe wnaeth yr Uchel Lys yn Llundain benderfynu ym mis Medi y dylid ailagor y cwest. Dywedodd Mr Pritchard-Jones ei fod nawr wedi cyhoeddi gorchymyn datgladdu.

"Pe bai cadarnhad mai gweddillion Mrs Finlay sydd yn y bedd, byddant yn cael eu hanfon i Iwerddon ac fe fydd crwner yn y wlad honno yn delio gyda'r mater, gan gynnwys cyhoeddi tystysgrif marwolaeth."

Dywedodd y bydd y broses datgladdu yn cael ei gynnal yn fuan.