Abertawe'n gobeithio am deitl Dinas Diwylliant y DU
- Cyhoeddwyd
Bydd Abertawe yn clywed nos Iau a ydy'r ddinas wedi llwyddo i ennill yr hawl i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2021.
John Glen, Gweinidog Celfyddydau a Diwylliant Llywodraeth Prydain, fydd yn cyhoeddi'r enillydd yn fyw ar raglen The One Show.
Y dinasoedd eraill sydd ar y rhestr fer yw Sunderland, Coventry, Stoke-on-Trent a Paisley, a'r dref yn Yr Alban ydy ffefryn bwcis Ladbrokes.
Er hynny, does yna ddim un ffefryn clir gyda bwcis gwahanol yn methu â dewis rhwng Paisley a Coventry.
Hull ydi'r ddinas diwylliant presennol, ac mae yna amcangyfrif bod y statws wedi rhoi hwb o £60m i'r ddinas.
Cafodd cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU ei chreu ar ôl llwyddiant Lerpwl fel Prifddinas Diwylliant Ewrop yn 2008.
Fe welodd y ddinas fuddsoddiad o £800m, a gafodd ei ddefnyddio i adfywio nifer o strydoedd, adeiladau a gorsafoedd rheilffordd.
Yn ogystal fe ddaeth 9.7m yn rhagor o ymwelwyr yn ystod y flwyddyn 2008 - cynnydd o 35%.
Ceisiadau'r dinasoedd ar y rhestr fer
Mae cais Sunderland yn cyfeirio at fuddsoddiad o £10m i ddatblygu ardal gelfyddydol gan gynnwys canolfan gelf mewn hen orsaf dân.
Coventry ydy man geni'r bardd, Philip Larkin, ac mae'r tîm y tu ôl i'r cais yn dweud bod hyn yn "gyfle i newid meddyliau pobol am y ddinas."
Llestri (a Robbie Williams) yw cynnyrch enwocaf Stoke-on-Trent ac mae'r trefnwyr yn gobeithio manteisio ar dreftadaeth diwydiant crochendai'r ddinas fel Emma Bridgwater, Spode a Portmeirion.
Paisley ydy'r lle cafodd yr actor David Tennant ei fagu ac mae tad Paolo Nutini yn rhedeg siop bysgod a sglodion yno. Mae cynlluniau i wario £42m ar Amgueddfa Paisley, ond fydd y newidiadau ddim i'w gweld tan 2022!
Mae Abertawe wedi bod ar restr fer y gystadleuaeth o'r blaen, gyda rhaglen oedd yn pwysleisio cysylltiadau'r ddinas gyda Dylan Thomas. Ond ar ôl colli i Hull, mae yna lai o sylw i'r bardd yn y cais diweddaraf.
Ymhlith y digwyddiadau a gafodd eu hawgrymu i fod yn rhan o'r rhaglen waith mae cynhyrchiad gan Michael Sheen fyddai'n cael ei berfformio mewn lleoliadau o amgylch y ddinas.
Bydd cyfarwyddwr y ffilm Twin Town, Kevin Allen, yn cynhyrchu Sioe Gerdd wedi'i selio ar gymeriadau'r ddinas a bydd cân fwyaf enwog Bonnie Tyler, Total Eclipse of the Heart, yn cael ei pherfformio ar draeth Abertawe.
Cadeirydd y panel, Phil Redmond, sydd wedi bod yn ystyried yr holl geisiadau - crëwr rhaglenni teledu Brookside a Grange Hill.
"Ry'n ni'n ddinas ddiwylliannol," meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, aelod cabinet Cyngor Abertawe, sy'n gyfrifol am ddiwylliant.
"Mae'r ddinas yn gartref i unig dîm Cymru yn Uwchgynghrair Lloegr, oriel Glynn Vivian, Dylan Thomas, a phrydferthwch Gŵyr," meddai.
"Mae hi yn anodd. Mae gan bob un o'r dinasoedd ar y rhestr fer straeon tebyg i'w hadrodd," meddai Tracey McNulty, sydd wedi bod yn arwain cais Abertawe.
Ymhlith y bobl adnabyddus sydd wedi cefnogi cais Abertawe mae'r actor Michael Sheen, yr actor a'r cyflwynydd Rob Brydon a'r gantores Bonnie Tyler.
"Gallai hyn fod yn un o'r pethau pwysicaf i ddigwydd i Abertawe o ran buddsoddiad, swyddi a llewyrch," meddai prif weithredwr Rhanbarth Gwella Busnes Abertawe, Russell Greenslade.
"Mae nifer yr ymwelwyr a refeniw wedi cynyddu'n sylweddol, felly pe bai Abertawe'n ennill mae gennym lawer i'w ennill," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2017