Ystyried ehangu gwaharddiad llusernau i gynnwys balŵns

  • Cyhoeddwyd
Balwns
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhyddhau balŵns yn ffordd boblogaidd i bobl dalu teyrnged i'w hanwyliaid

Fe allai rhyddhau balŵns ar dir cyhoeddus gael ei wahardd gan gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Mae 20 o 22 awdurdod lleol Cymru wedi gwahardd rhyddhau llusernau i'r awyr, ac mae Castell-nedd Port Talbot nawr yn ystyried ehangu'r gwaharddiad i falŵns.

Mae adroddiad i'r bwrdd cabinet adfywio a datblygu cynaliadwy, dolen allanol yn dweud bod gweddillion balŵns yn gallu lladd anifeiliaid.

Pe bai'r cynnig yn cael ei gymeradwyo fe fyddai'r gwaharddiad yn effeithio ar atyniadau fel Parc Margam, Parc Gwledig Ystâd y Gnoll a Pharc Coedwig Afan.

Dywedodd yr adroddiad fod "tystiolaeth gynyddol" ynghylch effaith niweidiol rhyddhau balŵns yn gyhoeddus i'r amgylchedd.

Yn ôl pennaeth cynllunio a gwarchod y cyhoedd y cyngor, Nicola Pearce, mae sawl rhywogaeth "yn aml yn camgymryd mai bwyd" ydi gweddillion balŵns, ac o'u bwyta mae'r gweddillion wedyn "yn gallu cau'r system dreulio ac achosi i anifail lwgu".

Mae llinyn y balŵns yn gallu achosi i greaduriaid llai dagu, meddai.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor eisoes wedi gwahardd rhyddhau llusernau o barciau'r awdurdod

Mae'r adroddiad yn argymell ffyrdd gwahanol o ddathlu gwahanol achlysuron gan gynnwys goleuo canhwyllau, chwythu swigod a digwyddiadau popian balŵns dan do.

O newid y polisi fe fyddai rhyddhau balŵns ar dir y cyngor yn cael ei drin fel achos o ollwng sbwriel.

Mae'r Gymdeithas Gwarchodaeth Forol (MCS) yn cefnogi'r syniad.

Cafodd 1,533 o ddarnau balŵn eu codi o draethau'r DU yn ystod arolwg sbwriel blynyddol MCS eleni.

Dywedodd MCS bod tua 70 o gynghorau ar draws y DU wedi cyflwyno gwaharddiadau tebyg, gan gynnwys Caerdydd.