Tân Llangamarch: Enwi tri phlentyn fu farw

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Lluniau o'r awyr o'r tŷ gafodd ei ddifetha gan dân ym Mhowys

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enwau tri o'r plant ifanc a fu farw mewn tân wnaeth ladd chwech o bobl mewn ffermdy ym Mhowys.

Bu farw Just Raine, 11 oed, ei frawd Reef Raine, 10 oed, a'u chwaer naw oed Misty Raine ar ôl y tan yn Llangamarch yn oriau man 30 Hydref.

Hefyd bu farw eu tad David Cuthbertson, 68 oed, a dau o blant eraill. Dyw'r heddlu heb gyhoeddi eu henwau nhw hyd yma.

Llwyddodd tri o blant eraill, 13, 12 a 10 oed, i ddianc yn ddianaf o'r adeilad.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Tony Brown, sy'n arwain yr ymchwiliad, fod corff pedwerydd plentyn wedi ei ganfod a'i symud o'r ffermdy ond heb ei adnabod yn ffurfiol.

Ychwanegodd fod y gwaith yn parhau i geisio dod o hyd i weddillion corff arall: "Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi gorfod dymchwel waliau allanaol y tŷ - 260 tunnell o frics a morter, fric wrth fric, a hynny drwy law.

"Dim ond ar ôl i hyn ddigwydd oedd hi'n bosib i ddechrau cribinio yn fanwl yn yr ystafelloedd mewnol.

"Rydym wedi bod yn cydweithio gydag arbenigwyr gwyddonol gan sicrhau fod y parch mwyaf yn cael ei roi i'r rhai a fu farw a'r rhai sy'n galaru," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd blodau a theganau eu gadael ger y tŷ wedi'r drychineb

Ychwanegodd: "Mae hi wedi bod yn broes heriol ac anodd ac mae'r gwaith yn debygol o barhau am ychydig wythnosau.

"Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda'r teulu, ac mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda nhw."

Dywedodd hefyd bod yr heddlu a'r gwasanaeth tân yn cydweithio ar yr ymchwiliad i ddarganfod achos y tân.

Mae gwefan casglu arian wedi codi dros £23,000 ar gyfer y teulu.