Mwy'n yfed a gyrru mewn mannau gwledig
- Cyhoeddwyd
Mae dau o heddluoedd Cymru ar frig y rhestr wrth gymharu pa luoedd sy'n cyhuddo pobl o yfed a gyrru yn y DU.
Yn ôl y ffigyrau diweddara, Heddlu Gogledd Cymru oedd yn ail a Heddlu Dyfed-Powys yn bedwerydd ar y rhestr sy'n cymharu'r nifer sy'n cael eu cyhuddo o yfed a gyrru am bob un o'r boblogaeth.
Yn ôl rhai mae'r ffigyrau yn awgrymu fod angen gwell trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer ardaloedd gwledig.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd fod ganddynt strategaeth gadarn wrth geisio mynd i'r afael ag yfed a gyrru.
Gwaed cais i Heddlu Dyfed Powys am sylw.
'Diffyg trafnidiaeth gyhoeddus'
Daeth y wybodaeth i law y Press Association ar ôl iddynt wneud cais rhyddid gwybodaeth i 45 o heddluoedd y DU.
Fe wnaeth naw o luoedd ddweud nad oeddynt yn gallu darparu ffigurau fyddai'n addas ar gyfer pwrpas cymhariaeth.
Mae'r ffigyrau ar gyfer cyfnod o 12 mis hyd at fis Mai 2017.
Heddlu Sir Lincoln oedd â'r canran uchaf o gyhuddiadau y pen, gyda 14 am bob 10,000 o bobl - sef 1,045 o yrwyr.
Gogledd Cymru oedd yn ail gyda 11.2 o gyhuddiadau ar gyfer pob 10,000 o boblogaeth - sef 783 o yrwyr, tra bod Dyfed-Powys gyda 9.5 o gyhuddiadau am bob 10,000 (493 o yrwyr).
Yn ôl Edmund King, llywydd cymdeithas foduro'r AA fe allai'r ffigyrau fod yn adlewyrchiad o'r diffyg trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig.
"Fe allai hefyd fod oherwydd bod rhai heddluoedd yn targedu yn well, ond beth bynnag y rheswm does yna ddim esgus am yfed a gyrru," meddai.
Dywedodd Jason Wakeford, cyfarwyddwr yr elusen Brake: "Yfed a gyrru yw un o'r pethau sy'n gyfrifol am y nifer mwyaf o farwolaethau ar ein ffyrdd, gan achosi galar i deuluoedd ym mhobman."
Yn ôl yr arolygydd Dave Cust o Heddlu'r Gogledd roedd gan y llu strategaeth gadarn wrth dargedu pump o droseddau, sy'n cynnwys yfed a gyrru.