Cyngor i drafod canolfan awyrofod £25m yn Llanbedr

  • Cyhoeddwyd
Maes awyr LlanbedrFfynhonnell y llun, Geograph/Roger Brooks
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 130 o bobl yn gweithio ym maes awyr Llanbedr cyn i'r safle gau yn 2004

Gallai cynlluniau i sefydlu canolfan awyrofod ar hen faes awyr Llanbedr yng Ngwynedd gostio £25m a chreu 100 o swyddi, yn ôl adroddiad, dolen allanol.

Datblygu a threialu cerbydau sy'n cael eu rheoli o bell fyddai arbenigedd y safle dan gynlluniau sy'n cael eu datblygu dan faner Canolfan Awyrofod Eryri.

Mae £1.5m eisoes wedi ei wario ar welliannau ond mae angen creu mynedfa newydd i'r maes awyr sy'n osgoi canol pentref Llanbedr.

Hefyd mae angen gwella rhedfeydd, y system Rheoli Traffig Awyr a rhai adeiladau.

Mae gofyn i Gyngor Gwynedd gymryd rôl arweiniol yn natblygiad y cynllun a chyfrannu £500,000 at gost uwchraddio'r safle.

Cryfhau achos Porth Gofod

Byddai'r cerbydau sy'n cael eu datblygu yn cynnwys cerbydau tir a morol yn ogystal ag awerynnau.

Mae'r adroddiad i gabinet y cyngor yn argymell na ddylai'r cyngor roi'r £500,000 onibai bod partneriaid eraill yn buddsoddi swm cyfatebol.

Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar y safle, sydd ar les tymor hir i Snowdonia Aerospace - cwmni sy'n gweithio'n agos gyda chwmni amddiffyn rhyngwladol QinetiQ.

Disgrifiad o’r llun,

Mae QinetiQ yn treialu drôns masnachol all fonitro datblygiadau fel erydu arfordirol

Mae trefnwyr y cynllun yn ceisio sicrhau £7.5m o arian Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru.

Dywed yr adroddiad y byddai uwchraddio'r safle "yn cryfhau'r achos i drwyddedu'r safle'n borth gofod, fydd yn ei dro yn gallu ddod â nifer sylweddol o swyddi yn ychwanegol, i'r ardal ac i Gymru".

Mae hefyd yn dweud bod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, dolen allanol wedi rhoi blaenoriaeth i'r prosiect ar gyfer cynlluniau isadeiledd rhanbarthol sy'n gymwys i geisio am gyllid Ewropeaidd.

Mae disgwyl y bydd cais cynllunio i ddatblygu maes awyr Llanbedr yn cael ei gyflwyno i WEFO (Cronfeydd yr UE yng Nghymru) cyn diwedd 2017.