'Porth Gofod' yn Llanbedr gam yn nes
- Cyhoeddwyd
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canlyniad ymgynghoriad i sefydlu maes awyrennau gofod sy'n cynnwys rhestr fer o leoliadau posib - ac mae Llanbedr yng Ngwynedd ar y rhestr o hyd.
Ym mis Gorffennaf y llynedd cyhoeddwyd rhestr o wyth safle posib ar gyfer y Porth Gofod, ond mae'r rhestr bellach wedi ei chwtogi i bum safle allai fod yn barhaol ac un arall wrth gefn fel safle dros dro.
Y rhestr newydd yw:
Campbeltown (Yr Alban);
Glasgow Prestwick (Yr Alban);
Stornoway (Yr Alban);
Newquay (Lloegr);
Llanbedr (Cymru);
RAF Leuchars (Yr Alban - safle dros dro).
Mae modd i safleoedd eraill wneud cais i fod ar y rhestr os fyddan nhw'n gallu dangos eu bod yn gallu cyflawni'r gofynion.
Dywedodd Gweinidog Awyr y llywodraeth, Robert Goodwill: "Rwyf am i Brydain arwain y ffordd i deithiau awyr masnachol. Bydd sefydlu porth gofod yn sicrhau ein bod ar flaen y gad gyda'r dechnoleg gyffrous newydd yma."
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable: "Ar un cyfnod roedd lansio lloerennau a theithiau masnachol i'r gofod yn ffuglen wyddonol yn unig, ond gyda chanlyniadau'r ymgynghoriad yma rydym gam yn nes at wireddu hyn yn y dyfodol agos."
Mae arweinwyr busnes a rhai cynghorwyr lleol wedi cefnogi'r syniad o ddod â'r Porth Gofod i Lanbedr yn y gorffennol.
Ond mae mudiadau cadwriaethol wedi mynegi pryderon y gallai'r datblygiad beryglu'r tirwedd a bywyd gwyllt yn yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams, sy'n cynrychioli Dyffryn Ardudwy ar Gyngor Gwynedd, ei fod wrth ei fodd gyda'r newyddion.
"Mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Grŵp Rheilffordd Arfordir y Cambrian a holl gynghorau cymuned ardal Ardudwy yn cefnogi'r cynllun," meddai.
"Dyma'r hwb sydd ei angen i gadw'n pobl ifanc yn yr ardal gyda swyddi o safon uchel yn y diwydiant awyr.
"Gadewch i ni obeithio y bydd y cais i gael y Porth Gofod yn Llanbedr yn llwyddiannus - mae dyfodol economi'r ardal a 30 milltir o'i chwmpas yn dibynnu ar hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2014