'Annerbyniol' disodli system gymorthdaliadau UE
- Cyhoeddwyd

Fe fyddai'n "hollol annerbyniol" i gymorthdaliadau economaidd yr Undeb Ewropeaidd gael eu disodli gan system newydd o San Steffan, medd prif weinidog Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones y byddai system gyllido ranbarthol fyddai'n caniatáu "swyddogion anetholedig yn Whitehall" i wneud penderfyniadau o ran buddsoddiad yn "bradychu datganoli".
Mae'r llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi dechrau gweithio ar 'Gronfa Ffyniant Cyffredinol' a fyddai'n cymryd lle system yr UE o dalu arian i'r ardaloedd tlotaf.
Dywedodd ffynonellau o San Steffan y byddai'n well pe bai Llywodraeth Cymru yn cyd-weithio'n adeiladol ar raglen newydd.
Cyhoeddi adroddiad
Fel un o rannau tlotaf yr Undeb Ewropeaidd, bydd Cymru wedi derbyn mwy na £5bn o gronfeydd strwythurol yr UE erbyn 2020.
'Nôl yn 2000, fe alwodd prif weinidog Cymru ar y pryd, Rhodri Morgan, yr arian yn "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth".
Ond mae rhanbarth 'Gorllewin Cymru a'r Cymoedd' yn dal i dderbyn y lefel uchaf o gymorth oherwydd bod cynhyrchiant - wedi'i gyfrifo fel Gwerth Ychwanegol Crynswth - yn parhau i fod yn is na 75% o gyfartaledd yr UE.
Gyda'r cymorth ariannol yma'n dod i ben ar ôl i'r DU adael yr UE, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad ddydd Iau sy'n amlinellu ei huchelgeisiau ar gyfer cynllun newydd.

Yn ôl Carwyn Jones, byddai caniatáu i "swyddogion anetholedig yn Whitehall" wneud penderfyniadau o ran buddsoddiad yn "bradychu datganoli"
Mae'r ddogfen 'Buddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit' yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod addewidion ymgyrchwyr dros adael yr UE na fydd Cymru ar ei cholled yn dilyn Brexit yn cael eu gweithredu.
Mae gweinidogion yng Nghaerdydd yn galw ar y Trysorlys i sicrhau y bydd "o leiaf" yr oddeutu £370m y flwyddyn y mae Cymru'n ei dderbyn o gronfeydd strwythurol yr UE yn cael ei ychwanegu i gyllideb Llywodraeth Cymru".
Ond mae'r ddogfen yn dweud nad bwriad Llywodraeth Cymru yw "disodli rhaglenni presennol yr Undeb Ewropeaidd trwy ddulliau eraill".
Mae'r papur yn nodi y gallai'r gallu i greu system newydd, heb gyfyngiadau rheolau presennol yr UE, fod o "fudd posibl" ar ôl Brexit.
Ar hyn o bryd mae swyddogion yn San Steffan yn gweithio ar fanylion 'Cronfa Ffyniant Cyffredinol' - ymrwymiad maniffesto y Ceidwadwyr ar gyfer etholiad cyffredinol Mehefin 2017.
Adrannau Llywodraeth Cymru sy'n gweinyddu'r cronfeydd strwythurol yn bresennol.
Mae'r ddogfen yn dweud: "Rydym yn gwrthod yn llwyr unrhyw syniad o ganoli polisïau datblygu economaidd rhanbarthol y DU, gan gynnwys creu 'Cronfa Ffyniant Cyffredinol' ar gyfer y DU sy'n cael ei reoli gan Whitehall.
"Fe fyddai'n anghyfrifol i Lywodraeth y DU geisio osgoi'r partneriaethau a'r strwythurau a sefydlwyd gennym dros 20 mlynedd ac y byddai unrhyw ymdrech i wneud hynny yn arwain at ymyrraeth, anghysylltiad ac aneffeithlonrwydd.
"Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cytuno i weinyddu arian os yw'r penderfyniadau tyngedfennol yn cael eu gwneud yn Whitehall," meddai'r ddogfen.
Mae'r papur hefyd yn galw am greu Cyngor o Weinidogion Economaidd o bob un o bedair gwlad y DU i sicrhau bod polisïau'n cael eu cydlynu.
Dywedodd Swyddfa Cymru Llywodraeth y DU ei fod yn rhy gynnar i ddechrau siarad am raglenni newydd o ystyried y cynnydd yn y trafodaethau Brexit.
Mynegodd ffynonellau o San Steffan rwystredigaeth hefyd na fu ymgynghori gyda nhw ynghylch dogfen Llywodraeth Cymru, er gwaethaf galwadau gan weinidogion yng Nghaerdydd i gymryd rhan yn sgyrsiau Brexit.

Mae Andrew RT Davies o blaid gweld San Steffan yn rhedeg rhaglenni newydd
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y byddai'n well petai swyddogion yn San Steffan yn rhedeg y rhaglenni newydd.
Yn ôl Andrew RT Davies AC: "Rwy'n meddwl beth sy'n bwysig yw bod pa bynnag gronfa sy'n cael ei ddatblygu ar ôl i ni dynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd, bod ganddi fwy o lwyddiant na'r hyn y mae cronfeydd Ewropeaidd wedi eu cael hyd yn hyn.
"Mae'n bwysig bod y cymunedau a fydd yn elwa o'r cronfeydd strwythurol yn cael dweud ei dweud o ran sut y mae'r arian hwnnw'n cael ei wario ac, yn bwysicach, bod cymaint o arian â phosib ar gael i'r cymunedau hynny i ddatblygu'n fwy ffyniannus.
"Ac rwy'n credu, o ystyried sefydliadau'r DU, y byddai'r gronfa honno'n cael ei gweinyddu orau gan Lywodraeth y DU o ystyried bod yr arian yn dod o'r Trysorlys."
Mewn ateb i gwestiwn ynghylch a fydd yr arian y mae Cymru'n ei dderbyn o'r UE Ewropeaidd ar hyn o bryd yn cael ei chynnal, ychwanegodd Mr Davies: "Mae'n bosib, os yw'n cael ei weinyddu gan Lywodraeth y DU, y gallai Cymru gael hyd yn oed yn fwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd12 Medi 2017
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2017