Ymchwiliad i negeseuon 'amhriodol' staff cartref plant
- Cyhoeddwyd
Mae cartref plant wedi cael ei gau wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i honiad bod negeseuon "amhriodol" wedi eu gyrru ar WhatsApp gan aelodau staff.
Mae cartref Tŷ Coed Duon, sydd hefyd yn nhre'r Coed Duon ger Caerffili, yn debyg o aros ar gau tan y flwyddyn newydd.
Cafodd dau breswylydd ifanc oedd yno eu symud wrth i berchennog y cartref preifat, cwmni Keys Childcare, edrych ar yr honiadau.
Fe wnaeth BBC Cymru ddatgelu yn gynharach yn y mis fod saith aelod o staff wedi eu gwahardd oherwydd yr honiadau.
Bu Cyngor Caerffili a heddlu Gwent yn cyfarfod i drafod y mater yr wythnos ddiwethaf, ond mae'r heddlu nawr yn dweud na fyddan nhw'n rhan o'r ymchwiliad gan nad oes honiad o droseddau.
Dywedodd y Cyngor hefyd na fyddan nhw'n rhan o'r ymchwiliad, ond maen nhw wedi argymell bod y perchnogion yn cynnal ymchwiliad llawn i'r mater.
'Camau pendant'
Pan ddaeth yr honiadau i'r amlwg, fe gafodd staff eraill eu galw i mewn yn lle'r rhai gafodd eu gwahardd, ac fe arhosodd y cartref ar agor.
Ond fe ddaeth yn amlwg bellach bod y cartref wedi cau wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae ymchwiliad yn digwydd ac nid yw'n briodol i ni wneud sylw pellach."
Pan ddaeth yr honiadau i'r amlwg dywedodd y cwmni eu bod wedi gwahardd y staff wedi honiadau o "gyfnewid amhriodol" o negeseuon ar WhatsApp.
Ychwanegodd y cwmni eu bod wedi cymryd "camau pendant" i ddiogelu'r bobl ifanc oedd o dan eu gofal.
Cafodd BBC Cymru wybod mai negeseuon testun yn unig oedden nhw, ac nad oedd delweddau yn y negeseuon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2017