Ateb y Galw: Beti George
- Cyhoeddwyd

Beti George sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Huw Edwards wythnos diwetha'.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mewn pram ar y rhos uwchben pentre Coedybryn yn gwylio Abertawe yn llosgi (falle mai dychymyg yw e!).
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Gregory Peck.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cyhoeddi ar Heddiw bod dau g*nt wedi colli eu swyddi yn Sir Fôn...

Mae Beti wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar deledu Cymraeg ers yr 1970au
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Mae'r dagrau yn dod rhyw ben bob dydd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Siwgr.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Llangrannog, ble mae fy ngwreiddiau.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Cyfrinach!

O Archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair
Ffyddlon, penderfynol a diamynedd (yn y car).
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Cwestiwn amhosib! Cefais fy nghyffwrdd gan The Bridge on the Drina gan Ivo Andrić - nofel hanesyddol sy'n rhoi gwell dealltwriaeth o'r berthynas rhwng y Serbiaid a Mwslimiaid Bosnia.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
David - roedd e'n gallu bod yn gymaint o hwyl.

Bu farw David Parry-Jones, partner Beti, ym mis Ebrill 2017 yn dilyn blynyddoedd o ddioddef o glefyd Alzheimer. Cododd Beti ymwybyddiaeth o'r clefyd drwy raglenni dirdynnol ar S4C a BBC Radio Wales
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod
Dwi'n perthyn i Sarnicol, y bardd.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dim yn siŵr - unai dathlu gadael yr hen fyd boncyrs 'ma, neu hiraethu am adael teulu a ffrindiau.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Eto - cwestiwn amhosib! Ond mae Watsia Di Dy Hun yn 'neud i fi wenu.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Bara lawr a chocos; Cimwch o ynys Samos a salad Groegaidd; Pei Banoffi.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Theresa May er mwyn gallu cyhoeddi ein bod yn dileu Brexit.

Roedd Beti a Gwyn Llewelyn yn cyflwyno Heddiw gyda'i gilydd am flynyddoedd
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Gwyn Llewelyn