Prosiect llosgydd yn 'cymryd mantais' o weithwyr tramor

  • Cyhoeddwyd
Parc AdferFfynhonnell y llun, Wheelabrator
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cynlluniau prosiect Parc Adfer eu cymeradwyo yn 2015

Mae cynllun ynni yng ngogledd Cymru, sy'n cael ei gefnogi gan arian cyhoeddus, wedi ei gyhuddo o "gymryd mantais" o weithwyr tramor.

Mae dau o undebau llafur mwyaf y DU hefyd yn honni nad yw datblygiad llosgydd Parc Adfer yng Nglannau Dyfrdwy yn cyflogi pobl leol.

Mae undebau GMB ac Unite eisiau i'r cynllun fabwysiadu canllawiau NAECI - cytundeb o fewn y diwydiant adeiladu peirianyddol - gan ddweud y byddai'n golygu cyflogau uwch a thermau ac amodau gwell.

Ond mae prif gontractwyr y prosiect, CNIM, yn wfftio honiadau'r undebau, gan ddweud nad yw'n orfodol iddyn nhw ddefnyddio canllawiau NAECI.

Pan fydd yn weithredol yn 2019, bydd Parc Adfer yn creu ynni o wastraff, gan gynhyrchu trydan adnewyddadwy i fwy na 30,000 o gartrefi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r undebau'n bryderus am iechyd a diogelwch ar y safle yng Nglannau Dyfrdwy

Mae'r orfodol i unrhyw bwerdy sy'n cynhyrchu o leiaf 50 megawat (MW) o drydan i ddilyn canllawiau NAECI, ond dim ond 19 MW fydd capasiti Parc Adfer.

Ond mae'r undebau'n dweud bod y cynllun yn "methu cyfle", yn enwedig gan ei fod yn cael ei ariannu gan bump o gynghorau gogledd Cymru - Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint ac Ynys Môn.

Maen nhw'n credu y byddai'r datblygiad yn creu mwy o swyddi ac yn rhoi hwb i fusnesau lleol pe bai'r cynghorau wedi mynnu ei fod yn mabwysiadu canllawiau NAECI.

Ond mae'r GMB yn derbyn y byddai dilyn y canllawiau yma wedi cynyddu cost y prosiect o 60%.

Maen nhw'n awgrymu y gallai cyflogau gweithwyr fod 63.5% yn is nac y bydden nhw o dan ganllawiau NAECI.

'Cydymffurfio'n llwyr'

Mae CNIM yn dweud eu bod "wedi gwneud yn amlwg ein bod yn cydymffurfio'n llwyr gyda chyfraith y DU".

"Yr awdurdodau lleol sy'n ariannu'r prosiect yma, ac mae ganddyn nhw gyfrifoldeb i wneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus," meddai'r cwmni mewn datganiad.

"Dyw canllawiau NAECI ddim yn orfodol ar gyfer prosiectau awdurdodau lleol, ac o ganlyniad, dyw'r cynllun ddim wedi'i ddynodi fel un ac ni fyddwn yn eu mabwysiadu yn y dyfodol."

Mae'r undebau hefyd yn bryderus am iechyd a diogelwch ar y safle.

Maen nhw'n credu bod gweithiwyr sydd ddim â'r sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith yn ddiogel yn cael eu cyflogi ar leiafswm cyflog.

Pe bai'r cynllun yn dilyn canllawiau NAECI byddai gan yr undebau'r hawl i fonitro iechyd a diogelwch a lefelau tâl ar y safle.