Ymchwiliad i dân achosodd ddifrod mawr i westy

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Roedd 45 o ddiffoddwyr wedi eu galw i'r digwyddiad

Mae ymchwiliad wedi dechrau ar ôl i dân achosi difrod mawr i westy yng Nglannau Dyfrdwy.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 04:27 fore Llun i westy'r Gateway To Wales ger ffordd yr A494.

Mae'r gwasanaeth tân wedi cadarnhau bod 47 o westeion ac aelodau o staff wedi llwyddo i adael yr adeilad yn ddiogel, ond mae mwg o'r tân wedi cael effaith ar drafnidiaeth yn yr ardal.

Fe lwyddodd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru i ddiffodd y fflamau am tua 12:00.

Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân wedi lansio ymchwiliad ar y cyd i achos y digwyddiad.

Roedd tua 45 o ddiffoddwyr ar y safle yn brwydro yn erbyn y fflamau yn y bore, ond erbyn y prynhawn roedd y nifer wedi gostwng i 20.

Dywedodd Cyngor Sir y Fflint y byddai rhai ffyrdd o amgylch y gwesty ynghau am o leiaf chwe awr wrth i'r gwasanaethau brys fynd i'r afael â'r tân.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae mŵg o'r tân yn effeithio ar drafnidiaeth yn ardal Glannau Dyfrdwy

Roedd y ffordd ymadael o'r A494 i gyfeiriad y dwyrain a ffordd y B5441 ar gau am gyfnod.

Cyhoeddodd y cyngor hefyd na fyddai Ysgol Gynradd Sealand yn agor ddydd Llun oherwydd bod ffyrdd i'r ysgol wedi eu cau, ac nad oedd athrawon wedi gallu cyrraedd.

Cafodd saith peiriant eu hanfon i fynd i'r afael â'r tân - o'r Fflint, Yr Wyddgrug, Bwcle, Wrecsam, Caer a dau beiriant o Lannau Dyfrdwy, yn ogystal â dau beiriant gydag ysgol.

Roedd tô y gwesty, sydd â tua 40 o ystafelloedd, ar dân erbyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Ffynhonnell y llun, PA

Dywedodd Simon Bromley o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod diffoddwyr wedi cyrraedd i weld tân yn y to, oedd wedi mynd drwy'r holl westy.

"Mi fydd swyddogion tan yna am 'chydig eto, yn 'neud yn siŵr bod y gwesty'n saff ac asesu sut mae'r tân wedi effeithio ar yr adeilad ei hun, ac yn gweithio'n agos gyda'r heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans i 'neud yn siŵr bod pawb yn ddiogel," meddai.

Ychwanegodd: "Mae 'na lot o fwg wedi bod yn y digwyddiad yma, mae'r [heddlu] wedi asesu'r ffyrdd yn yr ardal i 'neud yn siŵr bod nhw'n ddiogel i bobl basio, ac mi fyddan nhw yna gydol y bore yn 'neud yn siŵr bod pawb yn saff a bod traffig yn gallu symud yn o lew o dda o gwmpas y digwyddiad yma."