Llenyddiaeth Gymraeg mewn dwylo diogel
- Cyhoeddwyd
Mae 'na ddyfodol iach i lenyddiaeth Gymraeg os y bydd awduron ifanc buddugol Stori Fer Aled Hughes ar Radio Cymru yn dal ati.
Yr awdures Bethan Gwanas a Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru, gafodd y dasg o ddewis y pump stori ddaeth i'r brig.
Derbyniodd Rhaglen Aled Hughes ddwsinau o straeon gan ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 ysgolion cynradd Cymru.
Fe gafodd y straeon buddugol eu darlledu ar y rhaglen foreol yn ystod yr wythnos cyn y 'Dolig.
Dyma i chi gyfle arall i gael blas ar waith yr awduron talentog. Martin Thomas a Sian Beca yw'r storïwyr:
Rhaglen Aled Hughes, BBC Radio Cymru, Llun-Gwener, 08:30-10:00