Llochesau'n 'gwrthod' 500 o ddioddefwyr trais yn y cartref

  • Cyhoeddwyd
MenywFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae adroddiad newydd wedi datgelu bod cannoedd o ddioddefwyr trais yn y cartref wedi cael eu gwrthod gan lochesau yng Nghymru.

Cafodd tua 500 o ddynion, merched a phlant eu gwrthod yn ystod 2016-17 - bron i hanner o'r rheiny am fod yr unedau yn llawn.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae cyllid yr unedau wedi cael cwtogiad o 5%, ac mae pryder y gallai colli grant gan Lywodraeth Cymru arwain at gau rhai llochesau.

Mae un sydd wedi dioddef o drais yn y cartref yn credu y gallai fod wedi cael ei lladd pe byddai lle mewn lloches wedi cael ei wrthod.

'Achubiaeth'

Dywedodd Siân - nid ei henw iawn - ei bod wedi gadael ei chartref gyda'i mab wedi dros ddegawd o gamdriniaeth.

"I mi roedd yn achubiaeth.

"Dydw i ddim yn licio meddwl beth fyddai wedi digwydd... bydd yn sefyllfa ofnadwy os nad oes gan ferched, plant a dynion sy'n cael eu cam-drin rhywle i fynd."

Presentational grey line

Llochesau mewn ffigyrau

  • Y llynedd cafodd 14,129 o ddioddefwyr trais yn y cartref le mewn lloches yng Nghymru neu cefnogaeth yn y gymuned, yn ôl adroddiad Cymorth i Ferched Cymru.

  • Mae gan Gymru'r nifer uchaf o welyau mewn llochesau am bob 1,000 o ddioddefwyr benywaidd o drais yn y cartref, o gymharu â Lloegr a rhanbarthau Lloegr, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

  • Ond fe gafodd 249 o bobl eu gwrthod oherwydd bod yr ystafelloedd i gyd yn llawn. Cafodd eraill eu gwrthod achos cymhlethdodau fel anghenion iechyd meddwl a bod yn gaeth i gyffuriau.

Presentational grey line

Fe ddaw'r rhan fwyaf o gyllid y llochesau o gronfa Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru, sy'n werth £125m ac sydd wedi'i glustnodi i gynghorau i wario i gynorthwyo pobl fregus.

Ond mae sicrwydd yr arian yna'n dod i ben yn 2019-20 wrth i'r grant gael ei gyfuno gyda rhaglenni eraill, a bydd cynghorau wedyn yn dewis pa wasanaethau i flaenoriaethu a gwario arnyn nhw.

Mae darparwyr lloches, gan gynnwys Cymorth i Ferched Cymru, Hafan Cymru ac eraill yn dweud y gallai hyn beryglu bywydau merched, dynion a phlant.

Tina Reece of Welsh Women's Aid
Disgrifiad o’r llun,

Rhybuddiodd Tina Reece o Cymorth i Ferched Cymru fod cynnig lloches yn hanfodol mewn cyfnod allweddol i'r rhai sydd wedi diodde'

Dywedodd Tina Reece o Gymorth i Ferched Cymru ei bod yn hanfodol fod gan ddioddefwyr rhywle diogel i fynd iddo, yn enwedig gan fod llawer wedi aros am flynyddoedd cyn gadael perthynas dreisgar.

"Pan maen nhw'n chwilio am gymorth yn y diwedd, mae'n bwysig dros ben fod dewisiadau ar gael iddyn nhw fedru dianc, oherwydd yr adeg pan mae rhywun yn gadael perthynas felly yw'r adeg pan mae'r risg yn uchel iawn.

"Mae'r rhai sy'n cam-drin yn gallu teimlo'n ddig, a'u bod wedi colli rheolaeth ac fe wnân nhw bopeth o fewn eu gallu i gael y rheolaeth yna yn ôl."

'£9.4m o gefnogaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn 2017-18 fe wnaeth ein rhaglen Cefnogi Pobl ddarparu dros £9.4m o gefnogaeth i ferched a dynion sy'n diodde' trais yn y cartref, ac mae hyn yn gynnydd o'r ddwy flynedd cyn hynny.

"Rydym yn rhoi arian i awdurdodau lleol, sy'n penderfynu sut i wario'r arian yn lleol.

"Bydd y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei symud i gyllideb wahanol yn 2019-20, ond bydd yr arian yn aros yr un fath ag yn 2017-18. Rydym hefo wedi clustnodi £5.4m eleni drwy grantiau eraill i daclo trais yn y cartref."