Protestwyr yn atal dechrau torri coed mewn parc
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos bod protestwyr wedi llwyddo i atal y gwaith o dorri coed mewn parc yng Nghaerdydd rhag cychwyn.
Roedd disgwyl i gontractwyr ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddechrau llorio 38 o goed yn y parc yn y Rhath fel rhan o gynllun atal llifogydd.
Mae rhai'n lleol yn gwrthwynebu, gan honni nad oedd 'na ddigon o ymgynghori ac nad oes hanes o lifogydd yn yr ardal.
Ond dywedodd CNC eu bod wedi cynnal "nifer fawr o ddigwyddiadau" i drafod y cynlluniau a bod risg i gartrefi cyfagos.
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, yn dweud bod colli'r coed yn "drasiedi".
Daeth protestwyr i'r safle yn gynnar ddydd Mawrth. Fe glymodd un ohonyn nhw - Pilar, sy'n wreiddiol o Sbaen ond yn byw yn y ddinas ers 28 mlynedd - ei hun i goeden celyn.
Dywedodd ei bod eisiau i'r awdurdodau ailystyried eu cynlluniau.
"Mae'n rhaid iddyn nhw feddwl eto, fe wnaethom ni ddeiseb - gyda 3,000 o lofnodion mewn cyfnod byr iawn," meddai. "Mae'n rhaid iddyn nhw wrando gyntaf a'i drafod - nid [gwrando] wedyn".
Ddechrau'r prynhawn, fe gadarnhaodd CNC nad oedd contractwyr wedi cychwyn y gwaith ac na fyddan nhw'n gwneud hynny "tan ei bod hi'n ddiogel i wneud hynny".
'Trasiedi'
Yn ôl CNC, mae disgwyl i'r gwaith bara pedair wythnos i gyd - wythnos cyn y Nadolig a gweddill y gwaith ym mis Ionawr.
Roedd y corff wedi oedi gyda'r cynlluniau gwreiddiol ar gais Llywodraeth Cymru, cyn i'r Gweinidog Amgylchedd, Hannah Blythyn, ddweud ei bod hi bellach yn "fodlon i'r cynlluniau barhau".
Mae'r nant sy'n rhedeg drwy'r parc wedi gorlifo pedair gwaith yn y 10 mlynedd diwethaf, ond mae rhai o'r trigolion wedi dweud nad yw'r llifogydd wedi bygwth eu tai.
Dywedodd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, ei fod yn cydnabod ei bod hi'n "gyfrifoldeb statudol" ar CNC i amddiffyn rhag llifogydd ac y byddai coed yn cael eu plannu yn eu lle.
Ond ychwanegodd ar Y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru: "Fy ymateb personol i ydy dwi'n teimlo bod colli'r nifer o goed sy'n cael eu colli yn drasiedi."
Yn ôl un arall o'r protestwyr, Dr Sion Edwards, dyw pobl leol wedi cael cyfle iawn i leisio barn.
"Y pwynt yw d'yn ni ddim 'di cael cyfle i roi ein dadleuon, achos mae gweinidog yr amgylchedd wedi penderfynu cael sgwrs â CNC er mwyn deall ein consyrns ni," meddai.
"Dyle hi ddod i gwrdd â ni."
Ychwanegodd ei fod yn credu bod ymgynghoriad CNC "wedi bod yn gamarweiniol" ac nad oedd nifer y coed fyddai'n cael eu torri yn hysbys pan gafodd y cynllun sêl bendith Cyngor Caerdydd.
Ond dywedodd Deiniol Tegid o CNC eu bod wedi cynnal "nifer fawr o ddigwyddiadau yn lleol" ers 2012 am y cynlluniau, gan gynnwys paratoi 14 o daflenni gwybodaeth i bobl leol.
Dywedodd hefyd bod y cynllun wedi cael ei newid yn dilyn adborth.
Ychwanegodd eu bod wedi cynllunio mewn ffordd fyddai'n lleihau nifer y coed sy'n rhaid eu torri yn y parc a bod angen iddyn nhw weithredu ar y risg o lifogydd.
"Mae'r modelau a'r wyddoniaeth yn dangos i ni - er nad ydy'r cartrefi cyfagos wedi dioddef llifogydd eto - mae'r gymuned yma'n un o'r cymunedau sydd fwyaf mewn risg yng Nghymru.
"Ein cyfrifoldeb ni ydy sicrhau ein bod ni'n lleihau'r risg hwnnw, ac yn gwneud hynny mewn ffordd sydd mor gynaliadwy a sympathetig i'r amgylchedd ag sy'n bosib."