Gwahardd cefnogwr pêl-droed Wrecsam am bum mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwr Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cael ei wahardd rhag mynychu unrhyw gêm yn y DU am bum mlynedd am fynd ar y cae mewn gêm yn Tranmere yn gynharach y tymor hwn.
Cafwyd Nathan Myers, 28 oed o Wrecsam, yn euog gan Ynadon Cilgwri o dresbasu ar y cae yn ystod y gêm ar 23 Medi.
Fe benderfynwyd ei wahardd wedi i Heddlu Gogledd Cymru roi tystiolaeth o'i ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn nifer o gemau eraill.
Cafodd Myers a chefnogwr arall - Nathan Durnell, 46 - hefyd eu dirwyo am fynd ar gae Prenton Park ym Mhenbedw.
Fe wnaeth Wrecsam ennill y gêm yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr o 1-0.
'Niweidio enw da'
Dywedodd arolygydd dros dro Heddlu Gogledd Cymru, Craig Jones: "Yn anffodus mae gan Wrecsam nifer bychan o unigolion sy'n benderfynol o niweidio enw da y mwyafrif llethol o gefnogwyr go iawn sy'n teithio i gemau i wylio pêl-droed.
"Ni fydd Heddlu Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Wrecsam, yn goddef unrhyw drais neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, boed hynny ar y Cae Ras neu gan gefnogwyr sy'n teithio oddi cartref.
"Rydym yn croesawu penderfyniad y llys i wahardd Nathan Myers am bum mlynedd ac yn gobeithio y bydd hyn yn gyrru neges glir i eraill sy'n cael eu temtio i ymddwyn yn yr un modd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2017