Cwest: Marwolaeth tractor Pen Llŷn 'yn ddamwain'

  • Cyhoeddwyd
Chloe FarrellFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Chloe Farrell yn gweithio ym musnes ei theulu

Mae cwest wedi clywed bod dynes ifanc wedi marw ym Mhen Llŷn pan wnaeth tractor yr oedd hi arno droi drosodd arni.

Bu farw Chloe Farrell, 22 o Fae Colwyn, yn y digwyddiad ym mharc gwyliau'r Warren yn Abersoch ym mis Mai eleni.

Fe wnaeth y crwner gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon bod Ms Farrell a'i chariad wedi bod allan ar y môr ar jetski cyn y ddamwain.

Roedd hi yna wedi defnyddio'r tractor i dynnu'r jetski o'r dŵr, ac ar fin ei barcio yn y man arferol.

Gêr anghywir

Ond clywodd y gwrandawiad ei fod yn debygol bod Ms Farrell wedi gyrru am ymlaen yn hytrach nac am yn ôl mewn camgymeriad.

O ganlyniad i hynny fe wnaeth y tractor daro cwch oedd wedi'i barcio gerllaw a throi drosodd arni.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Chloe Farrell ym mharc gwyliau'r Warren yn Abersoch

"Mae'n ymddangos bod Chloe Farrell wedi penderfynu troi'r tractor i'w gadw yn y ffordd yr oedd yn cael ei barcio fel arfer," meddai crwner gogledd-orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones.

"Aeth rhywbeth o'i le yn ystod y symudiad yma ac achosi ei marwolaeth.

"Mae'n debyg ei bod eisiau dewis gêr am yn ôl, ond cafodd y tractor ei roi yn yr ail gêr.

"Dyma, fwy na thebyg, ddigwyddodd. Felly yn hytrach na mynd am yn ôl aeth y tractor ymlaen."

Dim achos i'w ateb

Clywodd y gwrandawiad bod y tractor yn 47 mlwydd oed, ond ei fod yn cael ei gadw mewn cyflwr da.

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi ymchwilio i'r digwyddiad, ond eu bod wedi dod i'r canlyniad nad oedd gan y parc gwyliau achos i'w ateb.

Ond dywedodd y parc eu bod wedi cyflwyno newidiadau i reolaeth traffig ar y safle.