Marwolaeth Afon Tawe: Dim cylch achub ger afon

  • Cyhoeddwyd
Alex PavlouFfynhonnell y llun, Llun Teulu

Mae'r rheithgor mewn cwest i farwolaeth myfyriwr 19 oed yn Abertawe wedi dweud bod diffyg cylch achub bywyd ger Afon Tawe wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Cafodd corff Alex Pavlou ei ddarganfod yn Afon Tawe ym mis Mai 2015 ar ôl bod allan gyda ffrindiau yn rhai o dafarndai'r ddinas .

Clywodd y cwest fod yna 'dystiolaeth gref' fod Mr Pavlou yn feddw y noson honno, a bod ganddo gyflwr ar ei galon.

Daeth y rheithgor i'r casgliad hefyd fod ymateb plismon a ddaeth ar draws y myfyriwr mewn gorsaf betrol yn "annigonol" o ystyried yr hyn a welodd e a'r wybodaeth oedd ar gael iddo.

Fodd bynnag, roedd y rheithgor o'r farn na fyddai modd iddo wybod y byddai bywyd Mr Pavlou mewn perygl.

Mae'r achos wedi cael ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

Cylch achub bywyd ar goll

Yn ystod oriau mân 28 Mai 2015, fe wnaeth clwb nos ar Stryd y Gwynt wrthod mynediad i'r myfyriwr 19 oed ac fe gafodd ei symud oddi yno gan yr heddlu.

Cafodd ei weld gan sawl llygad-dyst ym maes parcio archfarchnad Sainsbury's ar Stryd y Cei. Clywodd y cwest fod plismon wedi mynd ato a gofyn iddo symud i'r orsaf betrol, ond ei fod wedi colli golwg ohono ychydig wedi hynny.

Cafodd Mr Pavlou ei weld ddiwethaf yn afon Tawe gan ddyn a oedd yn sefyll ar bont gerllaw.

Pan ofynnwyd i'r llygad dyst a oedd e wedi ceisio ei achub, dywedodd ei fod wedi chwilio am gylch achub bywyd, ond bod un ar goll o'r man lle dylai fod yn cael ei gadw.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alex Pavloud yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberawe

Yn gynharach yn y cwest, fe esboniodd Jamie Rewbridge o dîm diogelwch y dŵr, Cyngor Abertawe, fod y cylch yn bresennol 90% o'r amser, ond ei fod ar goll pan gafodd archwiliad ei gynnal 10 diwrnod ar ôl marwolaeth Mr Pavlou.

Clywodd y cwest nad oedd golwg o Mr Pavlou erbyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd, ac fe gafodd ei gorff ei ddarganfod rhai dyddiau'n ddiweddarach.

Cafodd ei farwolaeth ei gofnodi fel marwolaeth dyn oedd wedi boddi, oedd yn dioddef o gyflwr ar y galon, ac a oedd wedi yfed alcohol.

Ymddiheuro am yr oedi

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd ei fam, Donnie Yuen, fod ei mab yn weithiwr caled ac nad oedd yn yfed rhyw lawer.

Ar ddiwedd yr achos, dywedodd cyfreithiwr ar ran y teulu ei bod hi'n "ffaith drist y gallai marwolaeth Alex godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd bod symud cylchoedd heb fod angen yn gallu bod yn angheuol".

Wrth dderbyn dyfarniad y rheithgor o reithfarn naratif, fe ymddiheurodd y dirprwy grwner, Mr Paul Bennet, wrth deulu Mr Pavlou am yr oedi yn yr achos, a dywedodd y bydd yn gwrando ar fwy o dystiolaeth cyn penderfynu a fyddai'n cymryd camau i gwyno'n swyddogol wrth Gyngor Abertawe am y diffyg cylchoedd achub bywyd.