Cabinet yn cymeradwyo cynllun gorsaf fysiau Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd y gwaith o adeiladu gorsaf fysiau newydd Caerdydd yn dechrau'n gynnar yn 2018 wedi i gabinet Cyngor y Ddinas gymeradwyo'r cynlluniau terfynol ddydd Mercher.
Y bwriad yn wreiddiol oedd i'r orsaf agor fis yma, ond mae'r prosiect wedi wynebu oedi mawr yn dilyn pryder am gyllid.
Bydd y cynllun terfynol yn gweld swyddfeydd a fflatiau yn cael eu hadeiladu fel rhan o'r datblygiad.
Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway y byddai'r cynllun yn mynd yn ei flaen heb ragor o oedi.
Gobaith Cyngor Caerdydd yw y bydd yr orsaf newydd yn agor yn 2020.
Cafodd yr hen orsaf ei dymchwel yn 2015 er mwyn gwneud lle i ddatblygiad Sgwâr Canolog, sy'n cynnwys safle newydd BBC Cymru.
'Heriau cyllidol'
Fe wnaeth cynlluniau i greu gorsaf newydd oedd wedi'i gysylltu â gorsaf drenau Caerdydd Canolog wynebi oedi cyn cael eu tynnu 'nôl yn llwyr oherwydd "heriau cyllidol difrifol".
Roedd y cynlluniau hynny wedi cael eu cymeradwyo gan y cyngor ym mis Mawrth eleni, ac yn cynnwys fflatiau, siopau, maes parcio a swyddfeydd.
Ond roedd y datblygwr, Rightacres, eisiau'r hawl i newid y fflatiau a'r swyddfeydd yn fflatiau myfyrwyr os na fyddai digon o denantiaid.
Daw'r cynlluniau newydd wedi i Rightacres ddod i gytundeb cyllidol â Llywodraeth Cymru.
Mae'n dal angen caniatâd cynllunio, ond dywedodd y cyngor bod y "caniatâd cynllunio presennol yn golygu y gellir bwrw ati i weithio ar y safle yn gynnar yn y flwyddyn newydd".
Dywedodd Mr Goodway, yr aelod cabinet dros fuddsoddi a datblygiad: "Does dim dwywaith bod oedi wedi bod mewn cysylltiad â'r prosiect hwn ond mae'r bartneriaeth newydd hon yn galluogi'r cyngor i fwrw ymlaen â datblygu'r orsaf fysus yn ddi-oed a bydd yn ein galluogi i sicrhau elfennau swyddfa sylweddol i ddiwallu anghenion darpar-fuddsoddwyr.
"Dywedais o'r dechrau fod angen i ni fod yn hyblyg i gwblhau'r project, gan ddefnyddio dull a arweinir gan y farchnad i gynhyrchu'r arian y mae ei angen arnom. Dyma'n union yr ydyn ni'n ei wneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2017
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2017