Cwricwlwm: Angen hyfforddi athrawon ar frys
- Cyhoeddwyd
Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad wedi mynegi pryder nad ydi athrawon wedi eu paratoi'n ddigonol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd.
Yn ôl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu 'ar fyrder' i sicrhau bod y gweithlu yn barod ar gyfer y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno'n raddol rhwng 2022 a 2026.
Fel rhan o ymchwiliad i'r hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu i athrawon, clywodd y pwyllgor nad oedd nifer o athrawon yn gwbl ymwybodol o'r diwygiadau i ddod, a dim ond lleiafrif oedd yn teimlo'n barod ar eu cyfer.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod heriau i'w ddisgwyl wrth gyflwyno cwricwlwm newydd, a'u bod yn gweithio'n agos gydag athrawon i'w paratoi ar gyfer y newidiadau.
Mae'r pwyllgor yn rhestru 25 o argymhellion gan gynnwys gwella'r ddarpariaeth hyfforddiant ar draws Cymru ac achrediad ffurfiol ar gyfer rhaglenni datblygiad proffesiynol.
Ymhlith yr argymhellion eraill mae:
Gwaith i sefydlu'r lefel y mae llwyth gwaith athrawon yn dod yn rhwystr i recriwtio;
Safonau proffesiynol llai cymhleth sy'n gosod yn fwy clir pa safonau craidd y mae disgwyl i athrawon eu cyrraedd er mwyn cyflawni eu gwaith yn effeithiol;
Ymchwil i weld a oes digon o gefnogaeth ar gyfer athrawon ym mlynyddoedd cynnar eu gyrfaoedd.
Heriau ar y gorwel
Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, AC Llafur Torfaen Lynne Neagle, mae camau diweddar gan yr ysgrifennydd addysg Kirsty Williams, gan gynnwys rhoi blwyddyn ychwanegol i ysgolion baratoi ar gyfer y newidiadau, "i'w croesawu'n fras, ond mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r materion a amlygwyd yn ystod ein hymchwiliad".
Ychwanegodd: "Mae'r dystiolaeth a gawsom yn awgrymu nad yw'r gweithlu presennol yn teimlo'n barod ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd ac felly mae gofyn am weithredu brys gan Lywodraeth Cymru i unioni hyn.
"Credwn y bydd ein hargymhellion yn helpu i sicrhau bod athrawon mewn sefyllfa well i ymdrin â'r heriau sydd ar y gorwel.
"Yn bwysicaf oll mae'r angen i sicrhau bod ansawdd yr addysgu yng Nghymru o'r radd flaenaf, ac yn parhau i fod felly yn y dyfodol. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i ddarparu'r offer i'r proffesiwn y mae eu hangen arno i sicrhau ansawdd yr addysgu."
Yn gynharach eleni roedd pwyllgor Cynulliad wedi rhybuddio bod anawsterau yn y modd roedd y cwricwlwm yn cael ei weithredu, ac roedd yna alw gan undeb athrawon am oedi.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd gweinidogion yn ymateb yn swyddogol i'r adroddiad yn y flwyddyn newydd.
"Bydd wastad heriau wrth gyflwyno cwricwlwm newydd ond rydym yn gweithio'n agos gydag athrawon, gyda phwyslais ar arweinyddiaeth gref a dysgu proffesiynol, i wneud yn siwr eu bod yn barod pan fydd y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno yn 2022," dywedodd mewn datganiad.
"Rydym yn gwrando ar yr hyn mae athrawon yn ei ddweud wrthym ac mae ein penderfyniad i newid yr amserlen i roi blwyddyn ychwanegol yn golygu y bydd amser i bob ysgol fynd i'r afael â datblygiad y cwricwlwm a bod yn hollol barod ar gyfer y newidiadau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd26 Medi 2017
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2015