Abertawe'n diswyddo'r rheolwr Paul Clement
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr Clwb Pêl-droed Abertawe, Paul Clement, wedi gadael y clwb.
Mae ei ddirprwyon Nigel Gibbs a Karl Halabi hefyd wedi gadael.
Mewn datganiad ar wefan y clwb dywedodd y cadeirydd Huw Jenkins: "Newid rheolwr, yn enwedig hanner ffordd drwy'r tymor, yw'r peth diwethaf yr oeddem am ei wneud fel clwb.
"Fe gawson dri rheolwr gwahanol y tymor diwethaf, ac o ganlyniad roeddem am roi cymaint o amser â phosib i Paul droi pethau rownd.
"Ond roeddem yn teimlo nad oedd modd gadael pethau yn hirach i wneud newid er mwyn rhoi cyfle i ni newid hynt y clwb ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr.
"Mae Paul wedi bod gyda'r clwb ers 12 mis, ac roedd ei waith i gadw'r clwb yn y brif adran yn ail hanner y tymor diwethaf yn orchest. Am hynny, a'i ymdrech a'i ymroddiad y tymor hwn, does dim angen dweud fod y clwb yn ddiolchgar iddo.
"Rydym yn dymuno'r gorau i Paul wrth fynd ymlaen gyda'i yrfa."
Leon Britton dros dro?
Daeth Clement i'r clwb flwyddyn yn ôl gyda'r clwb yng ngwaelodion Uwch Gynghrair Lloegr. Bryd hynny llwyddodd i achub y clwb rhag disgyn i'r Bencampwriaeth.
Ond y tymor hwn dyw'r clwb ond wedi ennill tair gêm a thair arall yn gyfartal gan adael Yr Elyrch ar waelod y tabl wedi 18 gêm. Mae ganddyn nhw 12 pwynt, sef yr un nifer â'r adeg yma y llynedd.
Bydd y clwb yn cyhoeddi mwy o fanylion am bwy fydd yn olynu'r tîm hyfforddi o fewn y 24 awr nesaf.
Dywedodd cyn-chwaraewr Abertawe a Chymru, Owain Tudur Jones wrth BBC Cymru Fyw: "Doedd dim dewis efallai. Maen nhw wedi rhoi tipyn o amser iddo, ond mae'r rhediad o golli wyth o'r deg gêm ddiwethaf yn un ofnadwy, ac mae hynny fel arfer yn arwain at ddiswyddo rheolwr.
"Ond hefyd dwi'n teimlo bechod drosto fo braidd. Beth sydd wedi dod yn amlwg yw nad yw'r garfan sydd ganddo fo yn ddigon da i ennill y gemau yna.
"Mae'n gynnar i feddwl am olynydd, ond faswn i'n disgwyl gweld efallai Leon Britton yn cymryd y swydd dros dro.
"Ond ai fo ydi'r opsiwn tymor hir? Dwi ddim yn gwybod... gawn ni weld."