Tân Llangamarch: Cyhoeddi enw pedwerydd plentyn fu farw

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Lluniau o'r awyr o'r tŷ gafodd ei ddifetha gan dân ym Mhowys

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw pedwerydd plentyn fu farw yn y tân mewn tŷ yn Llangamarch fis Hydref.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Martin Slevin fod pum corff wedi eu hadnabod bellach, ac mae'r diweddaraf i gael ei gadarnhau oedd Patch Raine, oedd yn chwech oed.

Roedd yr heddlu eisoes wedi cadarnhau enwau tri o'r plant - Just Raine, 11, Reef Raine, 10, a Misty Raine, 9 - yn ogystal â'u tad David Cuthbertson, 68, fu farw yn y tân yn oriau man 30 Hydref.

Llwyddodd tri o blant eraill, 13, 12 a 10 oed, i ddianc yn ddianaf o'r adeilad.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd blodau a theganau eu gadael ger y tŷ wedi'r drychineb

Mae enw un plentyn arall fu farw yn y tân eto i gael ei gyhoeddi.

Fe gadarnhaodd y Ditectif Brif Arolygydd Slevin fod y chweched corff bellach wedi ei ganfod ar safle'r tân, ond nad oedd wedi ei adnabod yn ffurfiol eto.

"Mae archwiliadau gwyddonol yn parhau er mwyn cyflawni hyn," meddai.

"Mae ein calonnau yn mynd allan i'r teulu, ac rydyn ni'n meddwl ac yn gweddïo amdanyn nhw."