Angen hybu'r economi mewn ardaloedd gwledig yn wahanol

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae angen ailfeddwl y ffordd rydyn ni'n hybu'r economi mewn ardaloedd gwledig a chynnal gwasanaethau yng nghefn gwlad, medd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol Paul Davies.

Yn ôl AC Preseli Penfro mae'n "rhaid i lywodraethau ar bob lefel gydnabod bod darparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn hollol wahanol i ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd trefol" a dyw hynny ddim yn digwydd ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod 'na ddarpariaeth arbennig i Gymru wledig fel rhan o'u Cynllun Gweithredu Economaidd, a'u bod eisiau i bob rhan o Gymru "elwa" o dwf economaidd.

Ateb gwleidyddion

Daw sylwadau'r AC wedi blwyddyn anodd i'r cymunedau gwledig wrth i fanciau gau, strydoedd mawr ddirywio a gwasanaethau meddygol ddod i ben.

Nid ef yw'r unig wleidydd sydd yn dweud bod angen edrych ar bethau yn wahanol.

Mae'r Aelod Seneddol Jonathan Edwards o Blaid Cymru yn dweud mai bancio amgen yw'r ateb ar gyfer y canghennau yng nghefn gwlad sydd yn cau.

Mae digon o enghreifftiau ar draws y byd o'r model meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Creu bancio amgen yw'r ateb yng nghefn gwlad medd yr AS Jonathan Edwards am fod banciau'n cau

Ar hyn o bryd y banciau yn Llundain sydd yn gwneud y penderfyniad o ran rhoi benthyciadau i fusnesau bach a dywedodd: "Mae'r banciau sydd yn cynnig yr arian i fusnesau lleol, chi'n colli'r ddealltwriaeth leol yna a chi'n cael penderfyniadau gwael yn cael eu gwneud sy'n tanseilio yn llwyr yr economi leol."

Credu bod angen creu pecyn o fuddsoddi yn debyg i'r cytundebau dinasoedd Abertawe a Chaerdydd mae'r Aelod Cynulliad Llafur a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan.

Cafodd adroddiad ei gyhoeddi ganddi ym mis Gorffennaf oedd yn dweud bod angen creu strategaeth economaidd wledig ar frys, i ymateb i heriau Brexit a'r rhanbarthau dinesig.

Un datrysiad posib arall i'r problemau mewn ardaloedd gwledig yw bod y cymunedau eu hunain yn cymryd cyfrifoldeb am y gwasanaethau.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Lesley Parker mae'n rhaid i bobl yn y cymunedau gymryd cyfrifoldeb am y gwasanaethau eu hunain

Mae yna enghreifftiau o hynny yn digwydd ar draws Cymru gan gynnwys Tafarn Sinc yng Ngogledd Sir Benfro a llyfrgell sy'n cael ei rheoli gan wirfoddolwyr a'r cyngor ar y cyd yn Llandysul.

Lesley Parker yw un o'r rhai sydd wedi bod ynghlwm â'r llyfrgell ac mae'n obeithiol am y dyfodol.

"Mae'n amser nawr i gymryd mantais o beth sydd yna dros ein hunain. Does neb yn mynd i ddod o'r cyngor i agor siop...Mae'n rhaid i ni gael y syniadau.

"Mae'n rhaid i ni gymryd yr opportunity nawr i wneud y pethau dros ein hunain. Achos os 'da ni ddim, dylen ni fynd i fyw yn y trefi mawr, y prif ddinasoedd.

"Ond dwi'n credu mae 'na lot o fywyd yn y pentrefi bach. Mae'n rhaid i ni jest neud pethau dros ein hunain."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan wedi dweud bod angen "sicrhau fod gan y Gymru wledig y gallu i flodeuo'n economaidd yn y dyfodol"

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod eisiau i bob rhan o Gymru "elwa o dwf economaidd" a'u bod wedi lansio Cynllun Gweithredu Economaidd.

Bydd y cynllun hwnnw, meddai'r llefarydd, yn ymwneud ag ystod o bethau gan gynnwys "cludiant wedi ei integreiddio yn well" a "chynllunio strategol gwell ar ystod o faterion fel tai a sgiliau."

"Fel rhan o'r cynllun mae Uwch Swyddogion Rhanbarthol wedi eu penodi i arwain ar ddatblygu'r economi yn rhanbarthol ac i weithio gyda phartneriaid yn y rhanbarthau i atgyfnerthu a chanfod cyfleoedd."

Pwyso i gael nawdd

Dywed y llywodraeth hefyd bod hi'n holl bwysig bod ardaloedd gwledig yn parhau i dderbyn buddsoddiad ychwanegol.

Mae llawer o'r arian hynny meddai'r llefarydd wedi bod yn dod o'r Undeb Ewropeaidd.

"Rydyn ni yn pwyso ar Lywodraeth San Steffan i gadw at yr addewid wnaethon nhw yn ystod yr ymgyrch refferendwm na fyddai Cymru yn colli nawdd o ganlyniad i'r ffaith fod y DU yn gadael yr UE."