Galw am strategaeth i'r economi wledig yn sgil Brexit

  • Cyhoeddwyd
Economi wledigFfynhonnell y llun, Getty Images/BBC

Mae Aelod Cynulliad Llafur wedi herio Llywodraeth Cymru i greu strategaeth economaidd wledig ar frys, i ymateb i heriau Brexit a'r rhanbarthau dinesig.

Mewn adroddiad o'r enw Cymru Wledig: Amser i Ymateb i'r Her 2025, mae Eluned Morgan, AC dros y Canolbarth a'r Gorllewin, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu rhaglen gadarn i baratoi ar gyfer yr economi yn dilyn Brexit.

Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i "ymgymryd ag adolygiad o'r adnoddau penodol fydd ar gael i'r Gymru wledig" o fewn ei hadran datblygu economaidd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "adnewyddu ein blaenoriaethau economaidd ac, fel rhan o'r gwaith yma, byddwn yn sicrhau bod materion gwledig yn cael eu diogelu".

Disgrifiad,

Eluned Morgan yn egluro'r heriau sy'n wynebu economi wledig Cymru

Mae'n mynd ymlaen i ddweud y dylid rhoi ystyriaeth i sefydlu Comisiynydd Materion Gwledig Annibynnol i fod yn gyfrifol am bolisiau cefn gwlad a sicrhau fod Cymru wledig yn ystyriaeth o fewn rhaglenni Llywodraeth Cymru.

Mae'n dweud fod "yn rhaid i gynllun fod yn barod... i sicrhau fod gan y Gymru wledig y gallu i flodeuo'n economaidd yn y dyfodol a pharhau i fod yn amgylchedd hyfyw i bobl hen ac ifanc gael byw a gweithio ynddi".

Dywedodd Eluned Morgan wrth BBC Cymru fod y "rhanbarthau dinesig yn brysio yn eu blaenau" a bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu "ymateb buan" ar gyfer ardaloedd gwledig.

Disgrifiad,

Mae Brian Thomas o'r FUW yn croesawu'r syniad o benodi Comisiynydd Cefn Gwlad

Gan groesawu'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar hyn o bryd rydyn ni'n adnewyddu ein blaenoriaethau economaidd ac, fel rhan o'r gwaith yma, byddwn yn sicrhau bod materion gwledig yn cael eu diogelu ac yn nodwedd gref wrth i Gymru weithio tuag at ddyfodol y tu allan i'r UE.

"Ers canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin y llynedd, rydyn ni wedi bod yn cynnal trafodaethau eang ar oblygiadau tebygol Brexit gyda chymunedau gwledig ledled Cymru.

"Wrth gwrs, mae datblygiad economaidd ein cymunedau gwledig yn cael ei gefnogi gan lefelau sylweddol o nawdd yr UE, ac mae'n bosib mai yma y bydd gadael yr UE yn fwyaf amlwg, ac yn gweld effaith gyflymaf.

"Mae'n hanfodol bod yr heriau y mae ein cymunedau gwledig yn wynebu yn parhau i dderbyn rhagor o fuddsoddiad ymroddedig - ac rydyn ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei addewidion yn ystod ymgyrch y refferendwm y byddai Cymru ddim yn colli nawdd o ganlyniad i'r DU yn gadael yr UE."

Line break

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar chwe maes penodol:

  • Adeiladu ar isadeiledd Cymru Wledig;

  • Cynyddu Sgiliau a Chynhyrchiant Cymru Wledig;

  • Tyfu Busnesau;

  • Hyrwyddo Bwyd, Ffermio a Diwydiant;

  • Defnyddio "Economi Seiliol" i sicrhau swyddi lleol i bobl leol;

  • Gwneud y mwyaf o botensial twristiaeth.

Line break