Gyrru dan ddylanwad: 90 wedi eu harestio gan yr heddlu
- Cyhoeddwyd
Wrth i ymgyrch heddluoedd Cymru i atal gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau barhau, mae Heddlu'r Gogledd wedi datgelu eu bod eisoes wedi arestio 90 o bobl ers dechrau'r ymgyrch ar 1 Rhagfyr.
Cafodd 60 o bobl eu harestio am yfed a gyrru, a 33 am yrru dan ddylanwad cyffuriau.
Dywedodd yr Arolygydd Dave Cust o Uned Blismona Ffyrdd yr ardal: "Er gwaetha'r rhybudd fod yr ymgyrch ar droed, mae dros 90 wedi cael eu harestio hyd yma.
"Os fyddan nhw'i gyd yn cael eu canfod yn euog, fe fyddan nhw i gyd yn cael eu gwahardd rhag gyrru am o leia' 12 mis, yn cael dirwy drom ac fe allai nifer golli'u gwaith.
"Mae gyrwyr o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn berygl iddyn nhw'u hunain a defnyddwyr eraill y ffyrdd. Byddwn yn parhau i ddefnyddio gwybodaeth leol i ddal pobl sy'n troseddu."
Fel rhan o'r ymgyrch mae Heddlu'r Gogledd yn dosbarthu teclyn i brofi anadl ar draws y rhanbarth er mwyn i'r cyhoedd eu defnyddio cyn gyrru y bore ar ôl iddyn nhw fod yn yfed.
Canllaw yn unig yw'r teclyn, ac nid yw'r sicrhau bod rhywun yn medru gyrru'n gyfreithlon, ond maen nhw ar gael mewn gorsafoedd heddlu yn rhad ac am ddim.
Ychwanegodd yr Arolygydd Cust: "Byddwn yn annog pobl i feddwl am effaith gyrru dan ddylanwad a sut y byddai hynny'n effeithio ar eu bywydau; gyrru i'r gwaith, trefniadau gofal plant, cymdeithasu ac ymweld â'r teulu... mae effaith colli eich trwydded yn anferth.
"Yn waeth na hynny fe allech chi ladd eich hun neu bobl eraill."
Mae'r heddlu hefyd yn annog pobl sy'n amau rhywun o yrru pan nad ydyn nhw mewn cyflwr i wneud hynny i gysylltu â'r heddlu yn syth ar 101 - neu 999 os yw'r person yn peri risg ddifrifol yn syth - neu gysylltu gyda Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2017