Cynnydd o 1,400% mewn cwynion sbwriel ym Mhen-y-Bont
- Cyhoeddwyd
Mae cwynion ynglŷn â chasglu sbwriel wedi codi mwy nag 1,400% ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn sgil newidiadau dadleuol.
Cafodd y cyngor lu o gwynion ar ôl i sbwriel gael ei adael ar ymyl pafin pan wnaethon nhw gyflwyno system newydd ym mis Mehefin.
Ar draws Cymru mae nifer y cwynion swyddogol wedi mwy na dyblu yn y pedair blynedd ddiwethaf.
Cwynion yn 'anorfod'
Yn ôl awdurdod lleol Pen-y-Bont roedd hi'n "anorfod" eu bod nhw am dderbyn cwynion ac mae ailgylchu wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed.
Ers mis Mawrth 2014 mae nifer y cwynion i gynghorau Cymru ynglŷn â biniau, sbwriel ac ailgylchu wedi mwy na dyblu o 1244 i 4719.
Roedd y cwynion yn ymwneud â llu o bethau fel trigolion yn flin bod sbwriel ddim wedi ei gasglu neu yn hwyr, agwedd y gweithwyr sbwriel ac oedi ynglŷn â chael biniau newydd.
Daw hyn wedi i nifer o awdurdodau gan gynnwys Conwy, Pen-y-Bont ar Ogwr a Gwynedd leihau y nifer o weithiau maen nhw'n casglu sbwriel mewn ymgais i gyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru ac i osgoi dirwy.
Mae mwyafrif y cwynion hyd yn hyn wedi bod ym Mhen-y-Bont.
Mae'r cyngor wedi derbyn 3,226 cwyn ers mis Ebrill- 35 gwaith yn fwy na'r 91 oedd yn 2014/15.
Ers Mehefin mae cartrefi lle mae llai na phump o bobl yn byw yno wedi eu cyfyngu i daflu dau fag o wastraff nad oes modd ei ailgylchu bob pythefnos o dan y cynllun newydd.
Bwriad y cynllun newydd yw ailgylchu bron a bod bob math o sbwriel, gyda bagiau gwahanol liwiau ar gyfer papur, plastig a chlytiau babis neu gewynnau, cardbord a thuniau ar gyfer gwastraff bwyd a gwydr.
Ond fe gwynodd trigolion am y gwasanaeth ar ôl i fagiau beidio cael eu casglu. Mae'r cyngor wedi cyfaddef fod yr oedi wedi bod yn "annerbyniol".
Sbwriel 'bob man'
Dros gyfnod y Nadolig mae'r cyngor wedi caniatáu i bobl rhoi un bag ychwanegol o sbwriel. Er hynny, saith mis ers y newid, mae rhai yn dweud nad yw hyn yn ddigon oherwydd bod y bag ychwanegol ar gyfer papur lapio, ac nad oes modd ei ailgylchu medd y cyngor. .
Dywedodd un fenyw sydd yn byw ar ystâd Wildmill ym Mhen-y-Bont bod sbwriel yn cynyddu am fod tua 40 o gartrefi yn rhannu biniau ailgylchu cymunedol ac nad ydyn nhw'n cael eu gwagio yn ddigon aml.
"Dros ŵyl y Nadolig fe fydd hi'n hunllef. Llynedd roedd sbwriel ymhob man achos fod y biniau yn llawn.
"Eleni maen nhw'n gadael i bawb roi un bag glas ychwanegol allan… ond mae hyn wedi bod yn dân ar groen nifer yn yr ystâd am gyfnod hir," meddai.
Yn ôl Freya Bletsoe, sydd yn gynghorydd annibynnol lleol, mae'n "ofnadwy" fod pobl yn talu i gael eu gwastraff wedi ei gasglu "a'i bod nhw yn gorfod jest derbyn y gwastraff yn cynyddu yn uwch ac yn uwch ar eu strydoedd. Dyw e ddim yn dderbyniol."
Yng Nghaerdydd fe ostyngodd nifer y cwynion ynglŷn â system gwastraff y cyngor o 350 yn 2014/15 i 135 yn y flwyddyn ariannol hon.
Ailgylchu mwy
Ond ym Merthyr mae'r niferoedd wedi mwy na dyblu o 353 i 721 yn yr un cyfnod.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Pen-y-Bont ar Ogwr bod yr awdurdod, yn sgil y newidiadau, ar y trywydd iawn i gael y gyfradd ailgylchu gorau ym Mhrydain.
"Gyda mwy na phum miliwn o gasgliadau'r flwyddyn, roedd hi'n anorfod bod y cyngor yn mynd i dderbyn cwynion wrth gyflwyno cynllun mor fawr."
"Mae'r rhain yn cynnwys cyfradd ailgylchu o 74% rhwng Gorffennaf a Medi, cynnydd ailgylchu o 254 tunnell mewn canolfannau ailgylchu yn y gymuned rhwng Mehefin ac Awst, 957 o dunelli yn llai o wastraff tirlenwi a 278 o glytiau babis neu gewynnau, sydd wedi eu troi yn styllod ffibr, paneli acwstig a mwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd8 Medi 2017
- Cyhoeddwyd17 Awst 2017