Heddlu'n ymchwilio i achos o lofruddiaeth yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
David WynneFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Wynne yn dad i bedwar o blant

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod bellach yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yn Abertawe nos Sadwrn.

Bu farw David Wynne o Gendros yn Ysbyty Treforys ar Ŵyl San Steffan, yn dilyn y digwyddiad ar stryd fawr y ddinas tua 20:40.

Fe aeth Kyle Dunbar, 29 oed o Fforesfach o flaen Llys Ynadon Abertawe yn gynharach ddydd Mawrth.

Mae e wedi ei gadw yn y ddalfa tan i ddyddiad gael ei bennu ar gyfer ei ymddangosiad nesaf.

'Person cariadus'

Mae teulu Mr Wynne wedi talu teyrnged iddo drwy ddweud ei fod yn "berson teuluol a chariadus oedd yn gweithio'n galed, a fydd yn gadael pedwar o blant ar ei ôl."

Mae'r heddlu yn awyddus i unrhyw un gyda gwybodaeth am ddyn oedd yn ceisio gwerthu persawr ar y brif stryd yn Abertawe cyn y digwyddiad am 20:40 i roi gwybod iddyn nhw.

Hefyd os wnaeth unrhyw un weld unrhywbeth amheus ar Stryd Ebeneser, neu glywed unrhyw beth amheus rhwng 21:00 - 23:00 yn ardal fflatiau Stryd Griffiths John i gysylltu gyda nhw.