Sêr chwaraeon yw rhedwyr dirgel ras Nos Galan Aberpennar
- Cyhoeddwyd
Cyn bencampwr bocsio'r byd Nathan Cleverly a chyn gapten tîm rygbi Cymru Colin Charvis oedd rhedwyr dirgel ras flynyddol Nos Galan yn Rhondda Cynon Taf.
Bellach yn ei 59fed mlynedd, mae'r ras yn cael ei chynnal yn Aberpennar er cof am y rhedwr lleol enwog, Guto Nyth Bran.
Ymunodd Cleverly a Charvis â gwasanaeth coffa brynhawn Sul yn Eglwys Sant Gwynno gan osod torch o flodau ar fedd y rhedwr chwedlonol.
Yna fe oleuodd y ddau ffagl cyn cychwyn y ras.
Llynedd cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman oedd y rhedwr gwadd, ac mae enwau eraill yn y gorffennol wedi cynnwys Shane Williams, Linford Christie, Dai Greene a Nicole Cooke.
Mae'r ras yn cychwyn o fedd Guto Nyth Bran, oedd yn ôl yr hanes yn gallu rhedeg mor gyflym fel ei fod yn dal adar yn ei ddwylo wrth iddyn nhw hedfan.
Wedi iddo redeg ras o Gasnewydd i Fedwas, bu farw ym mreichiau ei gariad, Sian o'r Siop, yn 1737.
Mae'r brif ras yn llwybr 5km (3.1 milltir) o gwmpas y dref, ac mae rasys eraill i blant ac oedolion hefyd yn cael eu cynnal.