Galwadau 999 170% yn uwch ar nos Galan

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlansys

Mae'r gwasanaeth ambiwlans yn dweud eu bod nhw wedi gweld cynydd enfawr yn nifer y galwadau brys yn ystod oriau cyntaf dydd Calan.

Rhwng hanner nôs a 04:00 fore Llun fe dderbyniodd y gwasanaeth 999 721 o alwadau ffôn - ar gyfartaledd 267 o alwadau sy'n cael eu derbyn yr adeg honno o'r dydd.

Mae hynny'n gynnydd o 170%, er mai nôs Galan yn draddoddiadol ydy noson prysuraf y flwyddyn i'r gwasanaeth.

Cafodd ambiwlans eu hanfon i 305 o achosion yn ystod pedair awr cyntaf 1 Ionawr, ond yn 15 o'r achosion doedd yna neb yn bresennol.

Cafodd dros 40 o bobl gyngor meddygol dros y ffôn hefyd.

Parhau yn brysur

Ddydd Sul, roedd pobl yn cael eu hannog i feddwl ddwywaith cyn galw am ambiwlans ar nos Galan ar ôl i'r gwasanaeth dderbyn cannoedd o alwadau ffôn gael eu gwneud dros gyfnod y Nadolig am anhwylderau megis annwydau a bola tost.

Dywedodd Richard Lee, Cyfarwyddwr gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans: "Fe weithiodd ein staff yn eithriadol o galed ar draws Cymru yn darparu gofal i gleifion oedd yn hynod sâl yn ogystal a'r rheiny oedd mewn cyflwr llai difrifol, ac fe gafodd rheiny eu trin unai yn y fan a'r lle neu eu dargyfeirio i wasanaethau eraill.

"Bydd y gwasanaeth iechyd yn parhau yn brysur dros y diwrnodau nesaf wrth i bobl ddychwelyd i'w bywydau pob dydd wedi cyfnod y Nadolig.

"Fe fydden ni'n annog unrhyw un i fod yn ddoeth yn eu penderfyniad i alw'r gwasanaethau brys, a bod y gwasanaeth yno yn bennaf i drin pobl sydd a'u bywydau mewn perygl neu sydd wedi eu hanafu'n ddifrifol."