Rhybudd i ffermwyr wedi cynnydd 20% lladrata cefn gwlad

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Ellis Roberts ar Newyddion 9

Mae yna rybudd i ffermwyr fod yn wyliadwrus wrth i ffigyrau cwmni yswiriant awgrymu fod lladrata ar gynnydd yng nhefn gwlad.

Yn ôl NFU Mutual roedd yna gynnydd o 20% mewn achosion o ladrata o'r fath drwy Brydain yn ystod y 12 mis diwethaf.

Dywedodd llefarydd fod "ton newydd o ladron sy'n benderfynol o lwyddo",

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio ffermwyr i fod ar eu gwyliadwriaeth ar ôl i nifer o feiciau cwad gael eu dwyn yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y misoedd diwethaf.