Celsa: Dim cyhuddiad dynladdiad wedi marwolaeth dau

  • Cyhoeddwyd
Mark Sim a Peter O'Brien
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Sim a Peter O'Brien yn y ffrwydrad ym mis Tachwedd 2015

Does dim digon o dystiolaeth i gefnogi cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod na dynladdiad corfforaethol yn dilyn marwolaethau dau ddyn mewn ffrwydrad ar safle dur yng Nghaerdydd.

Bu farw Peter O'Brien, 51 o Lanisien, a Mark Sim, 41 o Gil-y-coed, ar safle Celsa UK yn ardal Sblot yn Nhachwedd 2015.

Dywedodd Heddlu De Cymru iddyn nhw ddod i'r casgliad wedi ymchwiliad trylwyr.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) bellach yn arwain ymchwiliad i weld a gafodd canllawiau iechyd a diogelwch eu torri.

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad ar lawr isaf y ffatri, gan ladd dau ac anafu pum person arall.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad ar lawr isaf y safle yn ardal Sblot, Caerdydd

Dywedodd Heddlu De Cymru: "Yn dilyn ymchwiliad trylwyr gan Heddlu De Cymru a'r HSE, ni wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ddarganfod digon o dystiolaeth i gefnogi cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol na dynladdiad drwy esgeulustod."

Dywedodd llefarydd ar ran yr HSE: "Mae gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch flaenoriaeth dros yr ymchwiliad troseddol i'r ffrwydrad ar safle Celsa Manufacturing UK Ltd yn Sblot, Caerdydd ar 18 Tachwedd 2015.

"Rydym wedi cefnogi Heddlu De Cymru yn dilyn y digwyddiad. Nawr ein bod yn arwain, bydd yr HSE yn gyfrifol am gysylltu gyda theuluoedd Peter O'Brien a Mark Sim.

"Rydym wedi gwneud yn glir i'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad yma y bydd ein hymchwiliad yn un trylwyr, tra hefyd yn cydnabod yr awydd i ddod i gasgliad yn gyflym."

Mae teuluoedd y ddau ddyn a fu farw wedi cael gwybod.