£10m yn fwy i GIG i ddeilio â'r 'pwysau eithafol'

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething mae GIG o dan "bwysau eithafol".

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r pwysau cynyddol ar wasanaethau iechyd a gofal ar hyn o bryd drwy gynnig cyllid ychwanegol.

Bydd £10m ar gael i fyrddau iechyd, y gwasanaeth ambiwlans a gwasanaethau cymdeithasol i ddelio a'r trafferthion presennol.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething mae GIG o dan "bwysau eithafol".

Dywedodd Mr Gething: "Mae'r GIG wedi bod yn cynllunio ar gyfer y cyfnod hwn ers diwedd y gaeaf diwethaf, gyda £50m ychwanegol er mwyn cydbwyso gofal brys gyda gweithgareddau gofal eraill.

"Ond. rydym wedi gweld yn y dyddiau diwethaf system o dan bwysau eithafol.

"Yn ystod y cyfnod heriol hwn rydw i eisiau darparu £10m ychwanegol i'r Gwasanaeth Iechyd er mwyn helpu ein staff ofalu am gleifion yn ystod y gaeaf yma.

'Galw enfawr'

"Rydym yn gwybod bod gwasanaethau iechyd brys a gwasanaethau sylfaenol yn arbennig o brysur.

"Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi adrodd cynnydd o 50% mewn digwyddiadau sydd yn fygythiad i fywydau unigolion dros gyfnod y Nadolig.

"Mae ein gwasanaethau allan o oriau yn wynebu galw enfawr am eu cymorth.

"Rwy'n gobeithio bydd yr arian ychwanegol yma yn lleddfu'r pwysau ar y system rhywfaint."

Wrth ymateb i'r cyllid ychwanegol dywedodd Dr Charlotte Jones o Gymdeithas Feddygol y BMA ei bod hi'n "falch o weld Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau a dwi'n gwbl gefnogol," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod y cyllid ychwanegol yn "gam diystyr".

"Fel yr ydym wedi dweud tro ar ôl tro, beth sydd ei angen ar y gwasanaeth iechyd yw mwy o staff, arweinyddiaeth gryfach a chynllun strategol clir - ble mae prinder ar hyn o bryd."