Ateb y Galw: Gwyn Llewelyn

  • Cyhoeddwyd
Gwyn Llewelyn

Y darlledydd Gwyn Llewelyn sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Beti George wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy atgof cynta' yw bod mewn ysbyty ym Mangor yn dair oed (mae'n rhaid mai 1945 oedd hi) gyda pneumonia difrifol. Clywais droeon mai fi oedd yr ail o Fôn i gael penicillin, oedd newydd ei ddarganfod - achubodd fy mywyd medde nhw.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Julie Christie. Mae hi'n byw yn y canolbarth ond 'dwn i ddim sut wedd sydd iddi erbyn hyn!

Julie Christie
Disgrifiad o’r llun,

Dyma sut oedd Julie Christie yn edrych 'chydig o flynyddoedd yn ôl, Gwyn - ydy hi dal yn creu argraff?!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Cael blank yn ystod un linc tra'n cyflwyno cyngerdd Dafydd Iwan o lwyfan Prifwyl Bro Morgannwg 2012.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Ddim yn cofio pryd ond yn lled ddiweddar.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cnoi'r croen ar ben fy mysedd ar ôl torri ngwinedd!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ynys Llanddwyn, lle ganed Nain a'i brawd pan oedd eu tad yn beilot yn tywys llongau 'dros y bar' i'r Fenai.

Llanddwyn
Disgrifiad o’r llun,

Does yna ddim syndod fod Gwyn, fel nifer o bobl eraill, yn gwirioni ar Landdwyn brydferth

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Amhosib dewis un. Bu sawl uchafbwynt.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Annibynnol, anoddefgar, anghymdeithasol.

line

O Archif Ateb y Galw:

line

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Cysgod y Cryman, Islwyn Ffowc Elis. Nofel ffurfiannol yn ei dydd (1950au) i bopeth ddaeth wedyn, a Syllu ar Walia', cyfrol Ffion Dafis, 2017 am ei gonestrwydd amheuthun ond anodweddiadol Gymreig.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Gyda fy nhaid fu farw ym 1934 pan oedd fy nhad yn 17 oed ond na chlywais fawr ddim o'i hanes.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Rhannu dim - gweler ateb y cwestiwn uchod am fod yn anghymdeithasol!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Plygu i'r drefn a bod yn ddiolchgar!

Gwyn Llewelyn
Disgrifiad o’r llun,

Gwyn Llewelyn oedd y llais cyntaf glywodd y genedl ar BBC Radio Cymru ar 3 Ionawr 1977

Beth yw dy hoff gân a pham?

Molawd Llawenydd (Ode to Joy, Beethoven) a Gwawr Edwards yn canu ei fersiwn Gymraeg o One moment in time gan Whitney Houston.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Bwyd môr, yna mwy o fwyd môr gyda gwin gwyn da, a crème brûlée yn bwdin.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dim syniad.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Gwilym Owen