AS o Loegr yn cynnig 'ildio' sedd ar bwyllgor Cymreig

  • Cyhoeddwyd
Thelma Walker
Disgrifiad o’r llun,

Mae Thelma Walker yn cynrychioli etholaeth yng Ngogledd Sir Efrog

Mae Aelod Seneddol o Loegr wedi dweud ei bod yn barod i adael y Pwyllgor Materion Cymreig i wneud lle i aelod Llafur o Gymru, wedi beirniadaeth nad oedd unrhyw aelod Cymreig eisiau gweithio ar y pwyllgor.

Dywedodd yr aelod dros Colne Valley, Thelma Walker ei bod wedi cytuno i ymuno â'r Pwyllgor Materion Cymreig gan ei bod yn credu ei bod hi'n bwysig bod ganddo aelodaeth lawn o 11 AS.

Ond mae Plaid Cymru wedi dweud ei fod yn siomedig nad oedd y blaid Lafur yn gallu canfod un o'u ASau o Gymru i ymuno â'r pwyllgor.

Mae'r AS o Swydd Efrog wedi cymryd lle Stephen Kinnock, AS Aberafan, sydd wedi camu o'r neilltu er mwyn canolbwyntio ar ei waith ar bwyllgorau eraill, yn benodol y pwyllgor Brexit.

"Petawn i'n gallu parhau yn aelod o dri phwyllgor yna fe fuaswn i," meddai Mr Kinnock, "ond does dim digon o oriau yn y dydd ac mae sesiynau yn gallu gwrthdaro.

"Mae'n holl bwysig bod pwyllgorau yn gallu craffu yn gywir a dal y llywodraeth i gyfrif, a fuaswn i methu gwneud hynny'n iawn ar unrhyw un o'r pwyllgorau petawn i wedi aros yn aelod o'r tri."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts ei bod yn "siomedig nad yw'r blaid Lafur, gyda 28 AS o Gymru, yn gallu llenwi pedair sedd ar y Pwyllgor Materion Cymreig".

"Doedd Stephen Kinnock ddim wedi mynychu'r un cyfarfod yn y Senedd hon, felly mae wedi gosod bar isel i'w olynydd," meddai.

"Ond mae rhoi AS o Swydd Efrog yn ei le, i weithio ar bwyllgor sy'n delio gyda materion yn ymwneud â Chymru, yn sarhad i'r bobl bleidleisiodd dros y Blaid Lafur yn yr etholiad.

"Mae gweithio ar y Pwyllgor Materion Cymreig yn fraint a dwi wedi fy synnu nad oes yna'r un AS Llafur o Gymru yn teimlo y gallen nhw gymryd y cyfle yma i gynrychioli eu plaid a'u gwlad ar y pwyllgor."

Llawer o broblemau tebyg

Dywedodd Mrs Walker, sy'n gyn-brifathrawes: "Dwi'n credu bod fy etholaeth yn Swydd Efrog yn rhannu llawer o'r un problemau a nifer o etholaethau yng Nghymru, o ffermio i effaith Brexit, i faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth neu fand eang.

"Fe fyddaf yn llais ar gyfer Swydd Efrog, ond hefyd ar gyfer cymunedau yng Nghymru sydd hefyd wedi'u heffeithio gan agenda'r llywodraeth yma o gynni ariannol."

Ond ychwanegodd: "Fe fuaswn i'n fwy na hapus i gamu o'r neilltu os yw un o fy nghydweithwyr o Gymru eisiau cymryd y cyfle i fod ar y pwyllgor, ond yn y cyfamser, roeddwn yn credu ei fod yn bwysig bod gan y pwyllgor aelodaeth lawn."