Rhybudd 'cadw draw' wedi cynnydd achosion ffliw
- Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn galw ar bobl i gadw draw o ysbytai'r awdurdod yn dilyn "cynnydd sylweddol" mewn achosion o'r ffliw.
Mae swyddogion yn annog pobl sy'n dioddef o symptomau'r ffliw neu ymwelwyr i gadw draw o ysbytai yn Abertawe, Port Talbot a Phen-y-bont.
Er mwyn lleihau'r risg o ddal ffliw, y cyngor yw i olchi dwylo'n aml a sicrhau bod unigolion risg uchel wedi cael brechiad ffliw.
Nid yw'r brechiad tymhorol eleni yn gwarchod pobl rhag dal ffliw math H3N2, neu ffliw Awstralia, fel mae'n cael ei adnabod.

Mae swyddogion y bwrdd iechyd yn rhybuddio nad anwyd trwm yw ffliw ac y gallai fod yn ddifrifol iawn ac yn risg i fywyd.
Mae'r bwrdd yn gyfrifol am ysbytai Singleton a Threforys yn Abertawe, Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont.
Dywedodd llefarydd: "Rydyn ni'n gweld cynnydd sylweddol mewn achosion o'r ffliw sy'n dod i'n hysbytai.
"A wnewch chi osgoi ymweld oni bai bod wir angen, ac os oes gyda chi salwch fel y ffliw cadwch i ffwrdd o'n wardiau rhag ofn i'r salwch ledu i gleifion."

Pwy sydd yn y grŵp risg uchel?
Pobl dros 65 oed;
Merched beichiog;
Pobl sy'n dioddef o asthma, emffysema, diabetes, clefyd y galon, clefyd yr iau neu glefyd yr arennau;
Pobl gôr dew;
Gofalwyr;
Plant ifanc.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r brechiad ffliw ewch i wefan y Gwasanaeth Iechyd., dolen allanol
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2018