Pennaeth newydd CBAC â 'dealltwriaeth gadarn o'r sector'
- Cyhoeddwyd

Bydd Roderic Gillespie yn dechrau ar ei waith ym mis Mehefin
Mae gan brif weithredwr newydd CBAC "ddealltwriaeth gadarn o ofynion y sector cyfrwng Cymraeg" er nad yw'n siarad yr iaith ei hun, medd y corff arholi wrth Cymru Fyw.
Ddydd Mercher daeth y newyddion mai Roderic Gillespie fydd yn olynu Gareth Pierce pan fydd yn rhoi'r gorau i'r swydd ddiwedd mis Mai.
Mae Mr Gillespie ar hyn o bryd yn gyfarwyddwr asesu gyda Cambridge International, a chyn hynny bu'n Bennaeth Cwricwlwm Rhagoriaeth, Pennaeth Cymwysterau Cenedlaethol ac yn Rheolwr Cymwysterau o fewn Awdurdod Cymwysterau'r Alban (SQA).
Ond, tra'n cydnabod ystod profiad Mr Gillespie, mae undeb athrawon UCAC wedi mynegi pryder na fydd y prif weithredwr newydd yn gallu cyfathrebu â rhanddeiliaid drwy'r Gymraeg.

Bydd Mr Gillespie yn gweithio o bencadlys CBAC yng Nghaerdydd
Wrth gyhoeddi'r penodiad newydd ddydd Mercher, dywedodd CBAC fod gan Mr Gillespie "ddegawd o brofiad dysgu a rheolaeth colegau" a bod ganddo "ddiddordebau proffesiynol yn cynnwys diwygio addysgol, rheolaeth cwricwlwm, asesu ac addysgeg".
Dywedodd Mike Evans, cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CBAC: "Mae Roderic wedi dangos ymrwymiad sylweddol i'r sector addysg yn y DU ac yn rhyngwladol, gan ddeall yr heriau sy'n wynebu athrawon a chyrff dyfarnu.
"Gall felly adeiladu ar lwyddiant CBAC ac Eduqas. Bydd ei brofiad a brwdfrydedd yn bendant yn effeithio'n gadarnhaol ar y sefydliad cyfan."

Mynegodd Elaine Edwards bryderon am effaith penodiad Mr Gillespie ar y sector addysg Gymraeg
Ond ddydd Mercher fe drydarodd UCAC eu "siom", ac fe gwestiynodd eu hysgrifennydd cyffredinol Elaine Edwards beth fyddai effaith y penodiad ar y byd addysg yng Nghymru.
"Y sefyllfa sy'n ein hwynebu nawr yw bod prif weithredwr un o'r cyrff pwysicaf sy'n delio'n uniongyrchol ag ysgolion a cholegau Cymru yn methu cyfathrebu â'r ysgolion hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae'n debygol iawn y bydd newid yn ogystal yn y ddeinameg ieithyddol oddi fewn i CBAC, a'i berthynas ag amryw o gyrff allanol.
"A heb brofiad o system addysg Cymru, tybed beth yw ei ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â dwyieithrwydd yng Nghymru, a'n system addysg a chymwysterau dwyieithog ni?"
Dywedodd CBAC wrth Cymru Fyw fod gan Mr Gillespie "ddealltwriaeth gadarn o ofynion y sector cyfrwng Cymraeg" a'i fod yn "ymrwymedig i barhau i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i athrawon a chanolfannau yng Nghymru".
"Trwy ei brofiad o weithio yn y Scottish Qualifications Authority, mae Roderic yn llwyr ymwybodol o ofynion dwyieithrwydd mewn addysg.
"Mae Roderic wedi ymrwymo i fod ar flaen y gad yng nghenhadaeth CBAC i ddarparu cymwysterau, adnoddau a gwasanaethau o ansawdd uchel a fydd yn cynorthwyo ysgolion a cholegau i alluogi unigolion i gyflawni eu potensial yng Nghymru a Lloegr," meddai'r corff.
Dydy hi ddim yn glir a oes cynlluniau i Mr Gillespie ddysgu Cymraeg, ond dywedodd y corff fod "cyfran fawr o staff CBAC, gan gynnwys nifer sylweddol o'r uwch dîm rheoli yn gallu siarad Cymraeg, ac mae CBAC yn gyflogwr sy'n cefnogi pob aelod o staff sydd am ddatblygu neu wella ei sgiliau iaith drwy ein rhaglen hyfforddiant mewnol a mentora".

Bydd y prif weithredwr presennol, Gareth Pierce, yn rhoi'r gorau i'w waith ar 31 Mai
Bydd y prif weithredwr presennol, Gareth Pierce, yn rhoi'r gorau i'w swydd ar 31 Mai.
Dywedodd CBAC fod Mr Pierce, yn ei gyfnod wrth y llyw, wedi arwain y sefydliad "drwy gyfnod arwyddocaol o ddiwygio cymwysterau, gan atgyfnerthu safle CBAC fel corff dyfarnu o bwys yng Nghymru a Lloegr".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2017