Galw'r heddlu i ddigwyddiad mewn ysgol yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
ysgolionFfynhonnell y llun, Google

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau fod yr heddlu wedi eu galw ar ôl digwyddiad yn ymwneud â disgyblion dwy ysgol yng Ngwynedd.

Mae BBC Cymru'n deall fod disgyblion o Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon wedi teithio saith milltir ar fws i Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes cyn y digwyddiad ddydd Mawrth.

Y gred oedd bod y disgyblion o Gaernarfon wedi mynd draw oherwydd ffrae gyda bachgen o Ddyffryn Nantlle oedd wedi dechrau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Alwen Watkin, Pennaeth Ysgol Dyffryn Nantlle: "Yn ystod y digwyddiad ddoe, fe wnaeth yr ysgol ddilyn prosesau diogelu i sicrhau lles a diogelwch disgyblion a staff. Cafodd yr heddlu eu hysbysu."

'Siarad â'r plant'

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn galwad ddydd Mawrth yn dweud bod criw o blant yn aros am ddisgyblion ysgol arall ym Mhenygroes.

"Cafodd ei hysbysu i ni fel achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol oherwydd rhyw fath o drwbwl rhwng dau grŵp.

"Aethom yno i siarad gyda'r plant oedd ynghlwm â'r sefyllfa."

Ychwanegodd y llefarydd na chafodd neb eu harestio yn sgil y digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Ysgol Syr Hugh Owen: "Unwaith y daeth hi i'r amlwg fod rhai o'r disgyblion heb ddychwelyd i'r ysgol wedi'r egwyl ddydd Mawrth, fe wnaed ymdrechion i geisio dod o hyd iddynt, gan gysylltu gyda rhieni, yn unol â pholisïau'r ysgol.

"Mae'r mater yn cael ei drin yn unol â pholisi disgyblu arferol yr ysgol."