Leanne Wood: Croesawu her i'w harweinyddiaeth
- Cyhoeddwyd
Byddai Leanne Wood yn croesawu her i'w harweinyddiaeth fel arweinydd Plaid Cymru, meddai.
Yn unol â rheolau'r blaid, fe all Aelodau Cynulliad herio am yr arweinyddiaeth bob yn ail flwyddyn yn ystod eu cynhadledd yn yr hydref.
Does dim un aelod wedi datgan bwriad i wneud hynny hyd yma.
Dywedodd Ms Wood ei bod yn ymrwymiedig i weithredu'r cynlluniau yr amlinellodd hi ar ddechrau ei harweinyddiaeth yn 2012.
'Ddim yn broblem'
Ar raglen Sunday Politics Wales BBC Cymru, gofynnodd: "Sawl plaid wleidyddol arall sydd â'r sefyllfa lle mae'r arweinyddiaeth ar gael bob dwy flynedd - sefyllfa sy'n golygu fod modd i bob un aelod o'r blaid bleidleisio, a bod gan bob aelod o fy ngrŵp yn y Cynulliad Cenedlaethol yr hawl i ymgeisio amdani?
"Fe fyddwn i'n croesawu unrhyw her, dydy hynny ddim yn broblem."
Yn yr etholiad cyffredinol yn 2017, fe gynyddodd y blaid ei haelodau seneddol o dri i bedwar, er i'w cyfran o'r bleidlais ddisgyn 1.7%.
Ym mis Awst, dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth y byddai'n ystyried ymgeisio am yr arweinyddiaeth pan fyddai Ms Wood yn rhoi'r gorau iddi, ond dywedodd na fyddai yn ei herio hi.
Dywedodd Ms Wood nad oedd syniad ganddi a fyddai rhywun yn ei herio: "Dydy e ddim bwysig iawn am fy mod i'n hyderus o'r rhaglen y cefais fy ethol arni yn 2012, ac rwy'n ymrwymiedig i weithredu'r rhaglen honno, mae digon o waith i'w wneud o hyd ar hynny.
"Ond yn y pendraw, mater i aelodaeth Plaid Cymru yw hyn, a dyna ogoniant democratiaeth, onid e? Nhw sy'n cael dewis."
Taith
Mae Ms Wood yn paratoi i amlinellu agenda am "Gymru ddemocrataidd a grymus" yn ystod taith o gyfarfodydd ar draws y wlad.
Gyda'r nod o ailgysylltu pobl â gwleidyddiaeth a llenwi'r hyn mae'n ei weld fel y gwacter gwleidyddol cynyddol yng Nghymru, bydd yn amlinellu'r heriau sy'n wynebu'r wlad a chyflwyno syniadau polisi i'w trafod.
Wrth siarad cyn darlith ddydd Llun, dywedodd Ms Wood: "Mae pobl yn dweud wrtha i eu bod nhw'n teimlo eu bod wedi colli cysylltiad â gwleidyddiaeth, fod bwlch rhwng eu gwerthoedd nhw â'r wleidyddiaeth dan sylw.
"Gyda'r Blaid Geidwadol dan ddylanwad gwleidyddiaeth asgell dde galed, sy'n cael eu rheoli gan gefnogwyr Brexit, ac agenda Lundeinig, ganolig Llafur, mae angen rhywbeth gwahanol ar Gymru - rhywbeth amgen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd8 Awst 2017