Y Comisiynydd Plant yn annog trafod Islamoffobia
- Cyhoeddwyd
Mae'r Comisiynydd Plant yn annog mwy o athrawon i drafod Islamoffobia gyda'u disgyblion.
Yn ôl Sally Holland mae'r ffordd y mae rhai mewn cymdeithas yn trin y boblogaeth Fwslemaidd yn broblem gynyddol.
Mae Mwslimiaid ifanc yng Nghymru yn dweud bod pobl yn syllu arnynt yn gyson, mae eraill wedi cael eu galw yn "derfysgwyr" yn yr ysgol a mae rhai yn dweud bod dieithriaid wedi dweud wrthynt am dynnu eu sgarffiau pen.
Bwriad y Comisiynydd yw canolbwyntio ar y niwed y gall troseddau casineb ei wneud.
Un ffordd gadarnhaol, medd Sally Holland o ddelio â'r mater yw trafod y pwnc yn yr ystafell ddosbarth a herio Islamoffobia.
Bellach mae cymorth ar gael i athrawon i wneud hynny ac mae adnoddau yn cael eu cynnig i holl ysgolion uwchradd Cymru.
Ar gynnydd
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod troseddau casineb yng Nghymru a Lloegr wedi codi 29%.
Mae troseddau casineb yn ymwneud â chrefydd wedi codi 35%.
Yn y cyfamser mae un elusen gwrth-hiliaeth yn dweud bod athrawon o 16 awdurdod lleol yng Nghymru wedi sôn wrthynt am achosion o hiliaeth y llynedd.
Dywedodd y Comisiynydd Plant, Sally Holland: "Rwyf wedi siarad â Mwslimiaid ifanc ar draws Cymru sydd yn aml wedi dweud wrthyf eu bod ofn byw yn eu cymunedau.
"Maent wedi cael eu camdrin yn yr ysgol ac wedi cael digon ar sut mae Islam yn cael ei bortreadu gan y cyfryngau."
Mae safbwyntiau Mwslimiaid ifanc wedi helpu i greu adnoddau newydd i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.
Mae'r fideos yn cynnwys cyfraniadau gan ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd. Yno mae tri chwarter y plant yn dod o gefndiroedd ethnig.
Mae Shutha, sy'n 15 oed, yn dweud bod "nifer o sylwadau hiliol" wedi cael eu hanelu ati.
"Pethau fel - cer nôl i dy wlad dy hun, a chwestiynau am be dwi'n ei wisgo am fy mhen.
'Angen addysgu pobl yn well'
"Ro'n i'n arfer meddwl bod pobl yn gas ond wrth i fi dyfu'n hŷn dwi'n sylweddoli nad yw pobl wedi cael eu haddysgu am Islam - hynny yw am yr hyn ry'n yn gwneud yn ein crefydd, pam ein bod yn ei wneud, pam ein bod yn gwisgo mewn ffordd arbennig a pham ein bod yn arddel credoau penodol."
Ychwanegodd: "Rwy'n teimlo petai pobl yn cael eu haddysgu'n well, fe fyddai llai o Islamoffobia ac yn wir fe fyddai llai o gasineb yn gyffredinol."
Dyw Azeem sy'n 16 oed ddim wedi cael profiadau uniongyrchol o Islamoffobia ond mae ei ffrindiau wedi dioddef.
"Ar y bws, dyw pobl ddim am eistedd ar eu pwys," meddai, "gan eu bod yn gwisgo sgarffiau pen."
Mae Ibby 17 oed yn ystyried ei hun yn ffodus gan ei bod yn mynychu ysgol aml-ddiwylliannol ond tu allan i'r ysgol mae'n dweud fod "pobl wedi ymosod yn eiriol" ar ei ffrindiau.
"Rhaid cael ymyrraeth gynnar," meddai, "cyn i'r broblem dyfu'n un ddifrifol.
"Mae dysgu pobl ifanc am grefydd a diwylliant yn hynod o bwysig".
Mae cynlluniau ar gyfer y gwersi wedi cael eu treialu mewn ysgolion yn Abertawe, Caerdydd a Chastell-nedd.
Yn ôl Jo Bamsey, athrawes Addysg Grefyddol yn Ysgol Pentrehafod yn Abertawe maent wedi derbyn adborth cadarnhaol gan ddisgyblion.
"Mae yna feddwl wedi bod y tu ôl i'r gwersi ac felly roedd modd cael trafodaeth agored a gonest," meddai.
Ategodd Fiona Thomas o Ysgol Dwr-y-felin yng Nghastell-nedd fod yr "adnoddau wedi cyfleu y neges yn glir i'r myfyrwyr ein bod i gyd yr un fath, yn mwynhau pêl-droed, gwrando ar gerddoriaeth a chwarae ar yr Xbox".
Dywedodd yr elusen gwrth-hiliaeth Show Racism the Red Card bod athrawon o 16 o 22 awdurdod lleol Cymru wedi cysylltu â nhw yn gofyn am gefnogaeth i ddelio ag achosion o hiliaeth neu am gymorth i gynnal gweithdai.
Yn ôl y rheolwr ymgyrchoedd, Sunil Patel, "Mae nifer yr ymholiadau y mae'r elusen wedi'u derbyn wedi treblu o gymharu â'r un cyfnod y llynedd".
Dywedodd Ms Holland ei bod yn ymwybodol o'r her sy'n wynebu athrawon wrth daclo materion sensitif.
Dywedodd: "Ry'n yn ymwybodol fod athrawon yn gallu teimlo'n ansicr ac yn nerfus wrth gynnal gwersi ar bynciau fel hyn ac felly dwi'n gobeithio bod yr adnoddau yn cynnig canllaw a chefnogaeth."