Arddangos cynlluniau trydedd bont dros Afon Menai

  • Cyhoeddwyd
Map Llywodraeth CymruFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Map yn dangos manylion y pedwar opsiwn

Mae manylion pedwar opsiwn posib ar gyfer codi trydedd bont ar draws Afon Menai yn cael eu harddangos i'r cyhoedd yn Llanfairpwll.

Byddai tri o'r cynigion yn golygu codi pont ychwanegol wrth ymyl Pont Britannia, tra bo'r pedwerydd yn sôn am estyniad ar y bont bresennol.

Mae pob opsiwn yn cynnwys cyfleusterau i gerddwyr a beicwyr groesi'r Fenai.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyhoeddi pa opsiwn sy'n cael ei ffafrio erbyn haf 2018, a dechrau ar y gwaith adeiladu cyn diwedd 2020.

Fe gychwynnodd ymgynghoriad cyhoeddus, dolen allanol ym mis Rhagfyr ac fe fydd yn parhau tan 9 Mawrth.

Y pedwar opsiwn:

  • Opsiwn Coch: Pont newydd yn union i'r gorllewin o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8A ar yr A55;

  • Opsiwn Pinc: Estyniad i Bont Britannia / pont newydd yn union i'r dwyrain o'r bont bresennol i ddarparu lonydd ychwanegol ar gyfer traffig a gwelliannau i Gyffordd 8A yr A55;

  • Opsiwn Oren: Pont newydd yn union i'r dwyrain o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8A yr A55;

  • Opsiwn Porffor: Pont newydd i'r dwyrain o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8 ac 8A yr A55.

Mae'r arddangosfa gyntaf yn cael ei chynnal yn Neuadd Goffa Llanfairpwll rhwng 10:00 a 20:00 ddydd Mawrth a dydd Mercher.

Bydd sesiynau tebyg wedyn yn Nhŷ Menai ym Mharc Busnes Parc Menai ar 23 a 24 Ionawr.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i roi £3m ar gyfer gwaith dylunio a datblygu trydedd bont fel rhan o'r gyllideb ddwy flynedd a gafodd gefnogaeth gan Blaid Cymru.

Wrth wahodd pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates ei fod wedi "ymrwymo'n llawn i ddatblygu trydedd bont ar draws y Fenai ddaw â nifer o fanteision i'r ardal".

Ychwanegodd y byddai codi trydedd bont dros y Fenai yn "mynd i'r afael â thagfeydd ar Bont Britannia a sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd yn barod am brosiectau mawr megis Wylfa Newydd".