Llywodraeth Cymru yn prynu rhan o gwmni ceir TVR
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi prynu gwerth 3% ym musnes y gwneuthurwr car TVR.
Fe dalodd y llywodraeth £500,000 ac maen nhw hefyd wedi darparu benthyciad o £2m i'r cwmni cyn iddyn nhw ddechrau cynhyrchu ceir yng Nglyn Ebwy.
Bydd angen blwyddyn arall o ymchwil a datblygu cyn bod modd dechrau creu'r ceir cyflym yn 2019.
Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am sicrwydd bydd arian cyhoeddus yn cael ei warchod, tra bod Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn sicrhau bod trethdalwyr yn elwa o lwyddiannau'r dyfodol.
Buddsoddi mewn parc moduro
Fe gymerodd y llywodraeth reolaeth o'r tir lle mae TVR yn bwriadu cynhyrchu eu ceir newydd y llynedd.
Mae'r adeilad 200,000 sgwâr troedfedd yn rhan o gynlluniau gweinidogion i fuddsoddi £100m mewn parc busnes moduro yng Nglyn Ebwy.
Cafodd TVR ei brynu gan berchnogion newydd yn 2013 ar ôl i'r cwmni rhoi'r gorau i gynhyrchu ceir mwy na degawd yn ôl yn Blackpool.
Mae'r cwmni nawr yn bwriadu creu 150 o swyddi yng Nglyn Ebwy.
Angen 'gwerth am arian'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod TVR yn gwneud "cynnydd da gyda'u ceir newydd" a'u bod wedi cael y "nawdd angenrheidiol" er mwyn gwneud y gwaith datblygu a dylunio.
"Fel rhan o'n pecyn cefnogaeth gychwynnol er mwyn bod TVR yn ymrwymo i weithgynhyrchu yng Nghymru, ac yn dilyn diwydrwydd dyladwy annibynnol ac arbenigol, fe roddon ni fenthyciad masnachol ad-daladwy i'r cwmni yn gynnar yn 2016."
Cafodd ei roi law yn llaw gyda benthcwyr o'r sector breifat, a buddsoddiad o £500,000 mewn ecwiti gan y llywodraeth.
Yn ôl llefarydd economi'r Ceidwadwyr yng Nghymru, Russell George mae angen gweld tystiolaeth bod y buddsoddiad yn mynd i fod yn "werth am arian".
Dywedodd bod cyffro bod y cwmni wedi penderfynu lleoli eu hunain yng Nghymru, ond rhybuddiodd bod "angen i ni weld y swyddi sydd wedi eu haddo, ac fel cyfranddaliwr mawr yn y cwmni bydd y cyhoedd yng Nghymru eisiau gweld cynnydd go iawn".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2016