TVR i greu 150 o swyddi ceir cyflym yng Nglyn Ebwy

  • Cyhoeddwyd
tvrFfynhonnell y llun, tvr
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd gyfrifiadurol o sut allai'r TVR edrych - bydd y cynllun terfynol yn cael ei ddatgelu'n ddiweddarach yn y flwyddyn

Bydd cwmni ceir cyflym TVR yn sefydlu ffatri newydd yn y de gan greu 150 o swyddi.

Fe fydd y ffatri wedi ei lleoli yn ardal fenter yng Nglyn Ebwy, sydd yn gobeithio bod yn gartre' i'r cynllun Cylchffordd Cymru, prosiect gwerth £325 miliwn.

Roedd TVR wedi edrych ar dri safle ar draws y DU cyn dewis Glyn Ebwy ar ôl cael addewid o gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Wrth gyhoeddi'r newyddion ddydd Mawrth dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod hwn yn "fuddsoddiad proffil uchel gwych i Gymru" ac yn "hwb sylweddol i'n sector modurol."

"Rwyf wrth fy modd y bydd y genhedlaeth nesaf o geir TVR yn dwyn y label 'Gwnaed yng Nghymru' a hynny gyda balchder.

"Daw'r newyddion hwn heddiw chwap wedi'r cyhoeddiad gan Aston Martin, ac mae'n anfon neges glir a chryf mai Cymru yw'r lleoliad a ffefrir ar gyfer gweithgynhyrchu uwch.

"Hefyd mae'n dangos bod ein dull o weithredu er budd busnesau yn sicrhau canlyniadau, yn denu buddsoddiad sylweddol, ac yn creu swyddi o safon, yn ogystal â bod yn hwb anferth arall i Gymru, i'n sector modurol, ac i'n gweithlu medrus."

Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones yn arwyddo'r cytundeb gyda chadeirydd TVR, Les Edgar

Mae disgwyl i'r perchnogion newydd, a brynodd y cwmni Prydeinig dair blynedd yn ôl, ddechrau cynhyrchu ar y safle'r flwyddyn nesa'.

Mae gan y cwmni gynllun 10-mlynedd, gan gynnwys adeiladu pedwar model newydd, a'r nod yw cynhyrchu rhai cannoedd o geir y flwyddyn.

TVR yw'r ail wneuthurwr ceir moethus eiconig i wneud buddsoddiad sylweddol yng Nghymru o fewn pedair wythnos.

Fis diwetha' cyhoeddodd cwmni Aston Martin eu bod am sefydlu ail ganolfan , Bro Morgannwg, gan greu 750 o swyddi.

'Cyfnod cyffrous'

Dywedodd Les Edgar, Cadeirydd TVR: "Mae hwn yn gyfle gwych i TVR ac i Lywodraeth Cymru.

"Mae de Cymru yn datblygu i fod yn ganolfan bwysig ar gyfer datblygiadau a thechnoleg ym maes moduron a chwaraeon moduron, ac rwyf uwchben fy nigon bod TVR yn buddsoddi yma.

"Mae gennym brosiect ceir cyflym sy'n destun cyffro ac sydd wedi cael cymeradwyaeth yn fyd-eang, ac rydym yn falch dros ben bod Llywodraeth Cymru yn dymuno bod yn rhan o gyfnod newydd a chyffrous i TVR.

"Bydd y ffatri yng Nghymru yn brysur yn cyflawni archebion sydd eisoes wedi'u trefnu hyd at ddiwedd 2018."

Yn ddiweddarach ym Mae Caerdydd, fe fydd Mr Jones a Mr Edgar yn trafod y datblygiad mewn anerchiad i arweinwyr busnes o Gymru ynglŷn â chryfder yr economi.

Mae dros 350 o flaendaliadau wedi cael eu rhoi eisoes ar gyfer car cyflym y prosiect newydd gan TVR, a gyhoeddwyd ddechrau 2015.

Bydd gan y car hwn siasi arloesol a grëwyd gan Gordon Murray, y dyluniwr Fformiwla Un, a bydd yn cael ei weithgynhyrchu trwy ddefnyddio ei broses gydosod chwyldroadol iStream.