Dechrau datgymalu pier Bae Colwyn cyn diwedd y mis
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth rhan o'r pier syrthio i'r môr ym mis Chwefror 2017
Bydd y gwaith o ddymchwel pier Fictorianaidd ym Mae Colwyn yn dechrau cyn diwedd y mis.
Fe wnaeth Cyngor Conwy roi sêl bendith ym mis Tachwedd i'r gwaith, ond bydd unrhyw ddeunydd cadwriaethol yn cael ei storio, rhag ofn bydd y pier hanesyddol yn cael ei ailadeiladu yn y dyfodol.
Dywedodd cadeirydd y cyngor, Brian Cossey: "Rydym i gyd yn ymwybodol fod y pier yn dirywio, ac mae'r difrod y llynedd wedi cadarnhau bod risg gwirioneddol i les y cyhoedd.
"Bydd rhaid i 'r gwaith o ddatgymalu ac ailstrwythuro gael ei gario allan mewn ffordd ddiogel, gofalus ac wedi'i reoli.
"Mae gofyn i'r cyhoedd gadw draw am y tro wrth i'r gwaith ddigwydd," meddai.
Bydd contractwyr yn dechrau ar y gwaith yr wythnos nesaf ac mae disgwyl iddo gymryd pedwar mis i'w gwblhau.
Tra bod y gwaith yn digwydd, bydd tîm prosiect y cyngor yn gweithio ar gynlluniau ar gyfer pier byrrach ar y safle, cyn rhoi'r gwaith o'i adeiladu allan i dendr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2017