Cred mai tân trydanol oedd achos tân mewn cartref gofal
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaeth tân y Gogledd yn dweud eu bod yn credu mai offer trydanol wnaeth achosi tân mewn cartref gofal yn Nyffryn Conwy yn gynnar bore Iau.
Cafodd saith o bobl eu hachub o gartref Yr Hen Ficerdy ym Mhandy Tudur ger Llanrwst, a chwech eu cludo i'r ysbyty.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod yr unigolion hynny wedi eu cludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.
Mae Cyngor Conwy a bwrdd iechyd y gogledd wedi sicrhau llety gwahanol ar gyfer holl breswylwyr y cartref.
Cafodd chwech o griwiau tân eu hanfon o Lanrwst, Abergele, Llandudno, Bae Colwyn a'r Rhyl, yn ogystal â swyddogion uned reoli ac ysgol estynnol er mwyn cyrraedd rhannau uchaf yr adeilad.
Mae ymchwiliadau cychwynnol y gwasanaeth tân ar y cyd â Heddlu'r Gogledd yn awgrymu bod tân trydanol wedi cychwyn mewn storfa ar y llawr cyntaf.
Achos 'cymhleth'
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r cartref am 0:00 fore Iau.
Dywedodd Tony Jones, pennaeth ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd: "Rydym yn eithriadol ffodus na chafodd unrhyw un eu hanafu'n ddifrifol yn y tân yma.
Gan gyfeirio at wyntoedd cryfion dros nos dywedodd bod swyddogion tân "wedi gweithio mewn tywydd heriol i achub y bobl yma ac i daclo'r tân cymhleth yma.
"Mae'r tân wedi achosi difrod sylweddol i'r adeilad ac wedi peryglu bywydau'r preswylwyr."
Ychwanegodd bod yr achos wedi tanlinellu pwysigrwydd gosod larymau tân a gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio, gan fod posib "i danau trydanol ddigwydd unrhyw le ac unrhyw bryd".
'Pobl oedrannus a bregus'
Dywedodd y cynghorydd sir lleol Garffild Lloyd Lewis fod diffoddwyr yn dal ar y safle am gyfnod ar ôl diffodd y fflamau, gan groesawu'r ffaith bod neb wedi'u hanafu'n ddifrifol.
"Mae'r rhain yn bobl oedrannus a bregus ond mae pawb yn saff."
Ychwanegodd: "Dwi newydd siarad gyda un o'r swyddogion tân ac mae'r fflamau wedi eu difodd ond mae yna fannau poeth dal yno.
"Mae to ar un ochr o'r adeilad wedi dymchwel a bydd angen gwneud yn siŵr fod hwnnw'n saff."
'Digwyddiad trawmatig'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy eu bod wedi llwyddo i sicrhau llety gwahanol ar gyfer holl breswylwyr y cartref.
Roedd 20 o'r preswylwyr wedi gallu aros yn y cartref yn yr oriau wedi'r tân, tra bo'r cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwneud y trefniadau.
Dywedodd y cynghorydd sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol, Liz Roberts: "Rydym yn gwerthfawrogi bod hwn yn ddigwyddiad trawmatig i'r preswylwyr a'u teuluoedd.
"Rydym yn ddiolchgar am ymateb y staff gofal oedd ar ddyletswydd, y gwasanaethau brys a phobl yn y gymuned am helpu."