Sicrwydd i weithwyr Airbus ar ôl i'r cwmni ennill cytundeb

  • Cyhoeddwyd
a380
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o'r awyrennau A380 yn costio £321m

Mae gweithwyr ar safle cwmni Airbus ym Mrychdyn wedi derbyn sicrwydd, ar ôl i'r cwmni ennill cytundeb i werthu hyd at 36 o awyrennau i gwmni awyr Emirates.

Mae'r cytundeb - sy'n werth £11.5bn - yn dod ychydig ddyddiau ar ôl i Airbus fygwth dod a'r gwaith o gynhyrchu'r awyren yr A380 i ben pe na bai'r cwmni yn dod i gytundeb gydag Emirates.

Cadarnhaodd Airbus ddydd Iau fod Emirates wedi ymrwymo i brynu 20 o'r awyrennau A380 gydag opsiwn o brynu 16 yn rhagor.

Mae'r cytundeb yn sicrhau gwaith yn y dyfodol i staff Airbus ar ei safle yng Nghymru.

Dywedodd Steve Turner, ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol undeb Unite fod y cyhoeddiad yn "newyddion gwych", gan ychwanegu: "Mae'n hwb sylweddol i hyder gweithwyr Airbus, a bydd hyn yn sicrhau swyddi ar y safle ym Mrychdyn, lle mae'r adenydd ar gyfer yr A380 yn cael eu gwneud.

"Bydd gweithwyr Airbus yn falch iawn o'r cyhoeddiad hwn ac yn gobeithio y bydd mwy o archebion yn dilyn i sicrhau dyfodol y diwydiant yn yr ardal."

Dywedodd Airbus yn gynharach yr wythnos hon, mai Emirates oedd yr unig gwmni hedfan gyda'r gallu i ymrwymo i o leiaf chwe chynllun y flwyddyn am o leiaf wyth i 10 mlynedd.

Mae un awyren A380 yn costio £321m.

Dywedodd y Sheikh Ahmed bin Saeed Al Maktoum, cadeirydd a phrif weithredwr Emirates: "Bydd yr acheb yma'n darparu sefydlogrwydd i linell gynhyrchu'r A380.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag Airbus i wella'r awyrennau, er mwyn cynnig y profiad gorau posibl i'n teithwyr."