Gwylnos Penrhyn: Cannoedd yn cofio merch a babi fu farw
- Cyhoeddwyd
Roedd dros 400 o bobl yn bresennol mewn gwylnos yn nhref Penrhyndeudraeth nos Iau i gofio am ferch a babi fu farw mewn gwrthdrawiad.
Bu farw Anna Williams, 22 oed o Benrhyndeudraeth a Mili Wyn Ginniver, chwe mis oed o Flaenau Ffestiniog mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 yng Ngellilydan ar 11 Ionawr.
Mae Sioned Williams, oedd yn gyrru'r car yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog mewn uned arbenigol yn yr ysbyty yn Stoke.
Un o drefnwyr yr wylnos oedd Carys Haf Gaffey a ddywedodd fod y gymuned i gyd "mewn gwewyr."
"Dani gyd mewn gwewyr ac yn teimlo'n ofnadwy dros y teulu. Mae'r gymuned i gyd mewn sioc, does dim geiriau i ddisgrifio'r digwyddiad, mae'n erchyll," meddai.
Fe gafodd gwylnos arall ei chynnal yn nhref Porthmadog ar ddechrau'r wythnos ble roedd 200 o bobl yn bresennol bryd hynny.
Ers y digwyddiad mae cronfa wedi ei sefydlu ar gyfer y teulu.
Mae £17,000 wedi'i gasglu hyd yn hyn gan drigolion lleol a drwy gyfraniadau o du hwnt i'r dref.
Mae Gareth Thomas yn gynghorydd y dref ar Gyngor Gwynedd ac mi oedd yn bresennol yn yr wylnos.
"Mae'r ffordd mae'r gymuned yma wedi dod at ei gilydd i gefnogi'r teulu yma yn fy ngwneud i'n falch o fod yn gynghorydd yma. Mae'n anhygoel.
"Rhaid i ni gofio y bydd y teulu bach yma angen cefnogaeth am y cyfnod sydd i ddod, a dwi'n siŵr yn y gymuned yma y cawn nhw'r gefnogaeth." ychwanegodd Mr Thomas.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2018