Pryder am ffitrwydd Rhys Priestland cyn y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Ni fydd maswr Cymru, Rhys Priestland yn ymuno â'r garfan ryngwladol cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf i linyn y gar.
Mae'n annhebygol y bydd o ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o'r bencampwriaeth.
Cafodd maswr Caerfaddon ei anafu yn y golled yn erbyn Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ddydd Gwener diwethaf.
Yn gynharach yr wythnos hon cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru o 39, ond gwnaed y penderfyniad ar ôl iddo gael rhagor o brofion meddygol.
Yn dilyn asesiad gan ymgynghorydd meddygol dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru "y bydd Priestland yn aros gyda chlwb Caerfaddon er mwyn adfer ei ffitrwydd a bydd o ddim yn ymuno â charfan Cymru ddydd Llun".
"Mae disgwyl y bydd yr anaf yn ei rwystro rhag cymryd rhan yn y rhan fwyaf o Bencampwriaeth y Chwe Gwald."
Dyw hyfforddwr Cymru, Warren Gatland heb alw unrhyw un arall i'r garfan am y tro.
Mae pedwar chwaraewr yn y garfan sydd â'r gallu i chwarae fel maswr, sef Dan Biggar, Owen Williams, Rhys Patchell a Gareth Anscombe.
Priestland yw'r diweddaraf o chwaraewyr Cymru i ddioddef anaf cyn y bencampwriaeth.
Bydd Sam Warburton a Johathan Davies yn methu'r gystadleuaeth yn gyfan gwbl, tra bod Taulupe Faletau yn debygol o fethu'r gemau yn erbyn Yr Alban, Lloegr ac Iwerddon oherwydd anaf i'w ben-glin.