Cwpan Pencampwyr Ewrop: Clermont Auvergne 24-7 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweilch allan o Gwpan Pencampwyr Ewrop ar ôl iddyn nhw golli o 24-7 oddi cartref yn erbyn Clermont Auvergne.
Dim ond buddugoliaeth yn y gêm olaf yng Ngrŵp Dau brynhawn Sadwrn oedd ddigon os oedd y Gweilch am sicrhau eu lle hwythau yn y rownd nesaf.
Roedd hi'n ddi-sgôr am gyfnod hir yn yr hanner cyntaf, gyda'r ddau dîm yn brwydro am y meddiant.
Daeth y cais cyntaf wedi 24 munud, gyda chic gelfydd dros ben chwaraewyr y Gweilch yn rhoi cyfle i Morgan Parra groesi, ac roedd y trosiad yn llwyddiannus.
Sgoriodd Parra wedyn gyda chic gywir yn dilyn tacl uchel gan Hanno Dirksen, cyn ychwanegu tri phwynt arall o fewn dau funud.
Daeth cyfle cyntaf Dan Biggar gyda chic at y pyst ddau funud cyn diwedd yr hanner cyntaf, ond mi oedd ei ergyd yn aflwyddiannus.
Y sgôr ar yr hanner oedd Clermont Auvergne 13-0 Y Gweilch.
Anaf i Biggar
Daeth y Gweilch allan yn yr ail hanner yn chwilio am ffordd yn ôl fewn i'r gêm.
Roedd ychydig o oedi wrth i Rhys Webb dderbyn triniaeth, ond daeth cais cyntaf y Gweilch o'r gêm wedi 57 munud.
Symudodd y bêl o Olly Cracknell i Biggar i Scott Baldwin, ac Ashley Beck oedd yn y gornel i sgorio'r cais. Roedd Biggar yn llwyddiannus gyda'r trosiad i wneud y sgôr yn 13-10 i Clermont.
Wedi 68 munud fe wnaeth Parra ymestyn mantais y tîm cartref gyda chic gywir arall o 50 metr.
Daeth ergyd pellach i obeithion y Gweilch ar ôl i Biggar gael ei orfodi o'r maes gydag anaf i'w ysgwydd.
Gyda thri munud yn weddill llwyddodd Clermont i sgorio cais arall, gyda Luke McAlister yn croesi i sicrhau buddugoliaeth i'r tîm cartref o 24-7.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2018